Ffynnon Cegin Arthur

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ffynnon Cegin Arthur
Math ffynnon Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Y Brenin Arthur Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.161222°N 4.161985°W Edit this on Wikidata
Adfeilion yr ymdrochdy, Ffynnon Cegin Arthur.

Lleolir Ffynnon Cegin Arthur ym mhlwyf Llanddeiniolen yn Arfon, Gwynedd. Saif ar dir fferm Yr Hendref tua milltir i'r de-ddwyrain o bentref Llanddeiniolen. Ers canrifoedd lawer mae pobl wedi credu fod gan ddŵr y ffynnon hon rinweddau iachaol ac mae ei henw yn ei chysylltu â'r Brenin Arthur.

Yn ôl y traddodiad, fe'i gelwir yn Ffynnon Cegin Arthur am fod pobl yn credu mai brasder cig hydd oedd yr irad sy'n nofio ar wyneb y dŵr, a'i fod yn cael ei ddwyn yno gan y ffrydiau oedd yn rhedeg trwy gegin llys Arthur.[1] Yn y 19g, cofnodwyd i fochyn gael ei iachau trwy yfed dŵr y ffynnon.[2] Codwyd ymdrochdy ('spa house') ger y ffynnon ar gyfer ymwelwyr yn y 19g; mae'n adfail erbyn hyn.

Mae'r ffynnon yn gorwedd mewn ardal lle ceir nifer o olion o'r cyfnodau cynhanesyddol, yn cynnwys bryngaer Dinorwig, tua hanner milltir i'r gogledd-orllewin. Hefyd yn yr ardal, ceir Carnedd Glyn Arthur - cylch cerrig o Oes Newydd y Cerrig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. John Jones (Myrddin Fardd), Llên Gwerin Sir Gaernarfon (Caernarfon), tud. 170.
  2. Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Caerdydd, 1954, argraffiad newydd 1992), tud. 107.
WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato