Angharad James

Oddi ar Wicipedia
Angharad James
Ganwyd16 Gorffennaf 1677 Edit this on Wikidata
Nantlle Edit this on Wikidata
Bu farw25 Awst 1749 Edit this on Wikidata
Cwm Penamnen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ffermwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd1680 Edit this on Wikidata

Roedd Angharad James (16 Gorffennaf 1677 - Awst 1749) yn ffermwraig, yn delynores, yn ôl rhai hanesion yn awdurdod ar y gyfraith, ond yn cael ei chofio yn bennaf oll fel bardd.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganwyd Angharad James yn fferm Gelliffrydau, Baladeulyn yn Nyffryn Nantlle ar 16 Gorffennaf 1677. Tra yn ferch ifanc, priododd â William Prichard, gŵr llawer hŷn na hithau, oedd yn ffermio Cwm Penamnen, cwm i'r de o Ddolwyddelan. Trigai yn y Parlwr, neu Tai Penamnen, tŷ a fu yn gartref gynt i deulu Gwydir, gweddill ei hoes, a hithau'n ffermio'r cwm wedi marwolaeth ei gŵr.

Claddwyd hi ar 25 Awst 1749 ac mae ei bedd i'w gweld tu mewn i Eglwys Santes Gwyddelan, Dolwyddelan, y lleoliad mae'n debyg yn arwydd o barch ei chyfoedion.

Doniau[golygu | golygu cod]

Dywedir iddi fod yn delynores o fri, ac yn gorchymyn ei gweision i ddawnsio i'r delyn wrth ddod yn ôl o'r godro.

Mae llawysgrifau o'i barddoniaeth wedi goroesi. Yn eu mysg mae marwnad i'w mab Dafydd a fu farw yn 16 oed, a marwnad i'w gŵr ar ffurf ymddiddan dychmygol.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Nia Mai Jenkins, '‘A’i Gyrfa Megis Gwerful’: Bywyd a Gwaith Angharad James', Llên Cymru Cyfrol 24 (2001)
  • John Ellis Jones, 'Bedd Angharad James O Benamnen, Dolwyddelan', Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, cyfrol 45 (1984)
  • Owen Thomas, D.D., Cofiant y Parchedig John Jones, Talsarn (Wrecsam 1874)