David Richard Jones
Gwedd
David Richard Jones | |
---|---|
Ganwyd | 24 Hydref 1832 |
Bu farw | 1916 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bardd Cymraeg oedd David Richard Jones (24 Hydref 1832 – 1916), a anwyd ym mhlwyf Dolwyddelan (Sir Conwy).[1]
Ymfudodd teulu David Richard Jones i'r Unol Daleithiau yn 1845 a chafodd yrfa fel pensaer. Roedd yn ffigwr amlwg a dadleuol ym mywyd diwyllianol yr Americanwyr Cymreig; enillodd ei gerddi ymateb chwyrn gan rai oherwydd dylanwad Darwiniaeth arnynt. Ond roedd ei edmygwyr yn cynnwys y bardd T. Gwynn Jones.
Gwaith
[golygu | golygu cod]Cyfrannodd nifer o gerddi i'r cyfnodolion Cymraeg yn America, yn enwedig Y Drych (Utica, Efrog Newydd). Cyhoeddodd gasgliad o'i gerddi hefyd, sef:
- Yr Ymchwil am y Goleuni (1910)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Ffynnonellau
[golygu | golygu cod]