Gwyddelan

Oddi ar Wicipedia
Gwyddelan
GanwydGwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Blodeuodd6 g Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl22 Awst Edit this on Wikidata

Sant a gysylltir â Gwynedd a Phowys oedd Gwyddelan (fl. 6g efallai).[1] Dethlir ei wylmabsant ar 22 Awst.

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod]

Ychydig a wyddys amdano. Yn ôl 'Achau Saint Ynys Prydain', sefydlodd eglwys Dolwyddelan, yn Nyffryn Lledr (sir Conwy heddiw), ond ni cheir ei linach. Fe'i cysylltir ag eglwys Llanwyddelan ym Mhowys yn ogystal.[2]

Yn eglwys Dolwyddelan cedwid Cloch Wyddelan, cloch efydd o batrwm Celtaidd sydd erbyn hyn yng Nghastell Gwydir, Dyffryn Conwy.[2]

Ceir peth ansicrwydd ynglŷn â'r sant hwn. Mae'n bosibl fod ei hanes wedi ei gymysgu â hanes sant arall, Lorcan Wyddel. Yn achos yr eglwys ym Mhowys, mae rhai ffynonellau yn ei chysylltu â Gwenddolau.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (2001).
  2. 2.0 2.1 Harold Hughes & H. L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924).