Hen Neuadd Penrhyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hen Neuadd Penrhyn
PenrhynHall4102801.JPG
Math Adeilad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Conwy Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.3175°N 3.77949°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata

Plasty hynafol ger bryn Rhiwledyn ar gyrion pentref Bae Penrhyn, Llandudno, Gogledd Cymru, yw Hen Neuadd Penrhyn. Saif mewn pant cysgodlyd ger y ffordd sy'n cysylltu Bae Penrhyn a Llandudno.

Darlun inc o Hen Neuadd Penrhyn tua dechrau'r 1920au

Yn yr Oesoedd Canol gorweddai'r plasty yng nghwmwd y Creuddyn, cantref Rhos.

Nid oes sicrwydd pa mor hen yw'r plasty. Perthynai i'r Puwiaid a hawliai fod yn ddisgynyddion Ednyfed Fychan (13g), seneshcal Llywelyn Fawr. Yn ôl un traddodiad roedd gan Rhodri Molwynog, brenin Cymru, lys yma, ond ni ellir profi hynny. Cyfeiria'r hynafiaethydd John Leland (c.1506-1552) ato yn 1549 gan nodi fod bonheddwr o Sir y Fflint yn byw yno, "mewn tŷ cerrig". Ceir y dyddiad 1590 ar bentan y neuadd.

Roedd y Puwiaid yn Gatholigion pybyr. Ar 14 Ebrill 1587, cafwyd hyd i wasg gudd ar gyfer llenyddiaeth Gatholig mewn ogof ar Riwledyn, a gafodd ei defnyddio gan y reciwsant lleol Robert Pugh o'r Penrhyn a'i gaplan y Tad William Davies (m. 1593) i argraffu Y Drych Cristianogawl (gan Robert Gwyn neu Gruffydd Robert), y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru. Llochasant yno i geisio dianc yr erledigaeth ar Gatholigion a gychwynwyd gan Elisabeth I o Loegr ym Mai 1586. Darganfuwyd yr ogof tua dwy flynedd ar ôl cyhoeddi'r Ddrych ond roedd pawb wedi dianc a'r lle'n wag. Cafodd William Davies, gŵr lleol o Groes-yn-Eirias (Bae Colwyn heddiw) ei ddal gan yr awdurdodau a'i ddienyddio trwy ei dynnu, ei grogi a'i chwarteru yng Nghastell Biwmares ym mis Gorffennaf 1593.

Yn 1760 gwerthwyd y neuadd i'r teulu Williams o Graig-y-Don (safle ger Biwmares a roddodd ei enw i ardal Craig-y-Don ger Llandudno).

Gerllaw'r neuadd ceir adfeilion capel canoloesol cysegredig i'r 'Forwyn Fair o'r Penrhyn' ar lethrau isaf Rhiwledyn ger yr Hen Neuadd. Rhoddwyd y gorau i'w ddefnyddio ym 1930 ac mae'r adfeilion mewn cyflwr drwg erbyn heddiw.

Trowyd Hen Neuadd Penrhyn yn glwb nos yn y 1970au a chafodd ei difrodi'n sylweddol gan dân. Erbyn heddiw, ar ôl iddi gael ei hadnewyddu,fe'i trowyd yn fwyty o safon.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]