Ivor Wynne Jones

Oddi ar Wicipedia
Ivor Wynne Jones
GanwydMawrth 1927 Edit this on Wikidata
Allerton Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ebrill 2007 Edit this on Wikidata
Man preswylLlandudno Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata

Roedd Ivor Wynne Jones (28 Mawrth 19271 Ebrill 2007) yn newyddiadurwr Cymreig ac awdur llyfrau ar hanes lleol a hanes Cymru. Treuliodd rhan helaeth ei oes yn Llandudno.

Ganwyd Ivor Wynne Jones yn Allerton, un o faesdrefi Lerpwl. Gwasanaethodd fel paratrwpwr yn yr Ail Ryfel Byd, ac yn nes ymlaen gweithiodd i'r Forces Broadcasting Service yn Jeriwsalem. Bu'n bresennol yn yr eisteddfodau a gynhelwyd yng Nghairo, yr Aifft, yn ystod y rhyfel. Ar ôl cyfnod byr fel darlledwr yn Cyprus, dychwelodd i Gymru yn 1948.

Bu Jones yn olygydd y Caernarvon and Denbigh Herald ar ôl y rhyfel, cyn ymuno â'r Daily Post; cyfranodd i'r papur hwnnw am 52 o flynyddoedd. Daeth yn brif ohebydd tramor y papur, gyda diddordeb arbenig yn y Dwyrain Canol. Am flynyddoedd roedd yn ffigwr adnabyddus a dadleuol yng ngogledd Cymru am ei golofn wythnosol, "Forthright and Fearless", a ymddangosai hyd at ddau fis cyn ei farwolaeth. Fel Tori rhonc, a'i amharodrwydd i siarad Cymraeg er ei fod yn rhugl yn yr iaith, cododd wrychyn sawl un trwy ei feirniadaeth o genedlaetholdeb Cymreig. "Dyn y sefydliad" oedd o ar sawl ystyr, ond condemniai'n hallt Rhyfel Irac ac ymlyniad llywodraeth Prydain wrth bolisïau'r Unol Daleithiau yn ogystal.

Bu'n un o sefydlwyr Opera Cenedlaethol Cymru yn 1957.

Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Lewis Carroll, a chyhoeddodd lyfr ar gysylltiadau awdur Alice's Adventures in Wonderland ag ardal Llandudno. Ymhlith ei lyfrau eraill ceir hanes lleol darluniedig Llandudno a Bae Colwyn a chyfrol ar hanes diwydiant llechi Cymru (bu'n un o gyfarwyddwyr Chwarel Llechwedd, Blaenau Ffestiniog). Ysgrifennodd sawl cyfrol ar Gymru a'r Ail Ryfel Byd yn ogystal.

Bu farw ar 1 Ebrill 2007 ar ôl bod yn wael am rai misoedd ym Mae Colwyn.

Llyfrau[golygu | golygu cod]

  • The Order of St John in Wales
  • U-boat rendezvous at Llandudno
  • America's Secret War in Welsh Waters
  • Llandudno Regina, the Queen of Welsh Resorts (1973)
  • Shipwrecks of North Wales (1973; 1986)
  • The Llechwedd Strike of 1893 (1993)
  • Colwyn Bay: a Brief History (1995)
  • Gold, Frankincense and Manure (1997)
  • Alice's Welsh Wonderland (1999)
  • Hitler’s Celtic Echo
  • Victorian Slate Mining (2003)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]