Meini Hirion, Penmaenmawr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Meini Hirion Penmaenmawr)
Cylch Cerrig Teml Ceridwen
Y Meini Hirion
Cylch Cerrig y Meini Hirion

Cylch cerrig cynhanesyddol sy'n gorwedd ar yr ucheldir i'r de o dref Penmaenmawr, Sir Conwy yw'r Meini Hirion. Gyda dyfodiad twristiaid yn ail hanner y 19g, bathwyd yr enw Saesneg Druids' Circle, ond does dim cysylltiad gwirioneddol â'r derwyddon Celtaidd. Enw arall a gofnodir mewn rhai llyfrau yw Teml Ceridwen, ond ymddengys mai ffrwyth dychymyg hynafiaethwyr y 19g yw'r enw, a geir yn argraffiad Isaac Foulkes o'r Mabinogion, a does dim cysylltiad a wyddys â chwedl y dduwies Gymreig Ceridwen; "Y Meini Hirion" yw'r enw Cymraeg lleol. Cyfeirnod OS yr heneb hwn ydy SH72287464.

Disgrifiad a hanes[golygu | golygu cod]

Cylch cerrig y Meini Hirion
Y Meini Hirion, tua'r 1840au

Lleolir y Meini Hirion ar ymyl y rhosdir eang uwchben Penmaenmawr a groesir gan afon Gyrrach, tua milltir i'r de-ddwyrain o fynydd Penmaen-mawr. Rhed hen ffordd gynhanesyddol heibio i'r cerrig. Mae'r ardal yn un gyfoethog ei henebion a safleoedd archaeolegol: ceir sawl maen hir a bryngaer yn y cyffiniau, yn cynnwys Braich-y-Dinas, a fu'n un o gaerau mwyaf Cymru gyfan cyn iddi gael ei dinistrio gan y gwaith chwarel ar y Penmaen-mawr. Tua hanner milltir i'r gogledd ceir safle "ffatri bwyeill" Cwm Graiglwyd hefyd. Ceir sawl cylch cerrig llai o fewn rhai milltiroedd yn ogystal. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu fod pobl yn byw yn yr ardal yma lle saif y Meini Hirion ynddi yn y cyfnod cynhanesyddol ac ymddengys fod y cylch cerrig yn ganolfan bwysig.[1]

Ceir deg o gerrig yn y cylch heddiw. Mae'r un fwyaf ohonynt yn mesur dros 2 fedr (6 throedfedd) o daldra ac yn cael ei hadnabod fel "Y Mynach" oherwydd ei ffurf drawiadol. Mae rhan o'r cylch wedi cael ei gloddio gan archaeolegwyr yn y gorffennol. Darganfuwyd gweddillion plant wedi'u hamlosgi, sy'n awgrymu claddu defodol ar y safle. Credir y codwyd y Meini Hirion yn Oes yr Efydd.[1]

Tynnodd y Meini Hirion sylw hynafiaethwyr mor gynnar â'r 16g. Ceir disgrifiadau gan Syr John Wynn o Wydir ac, yn nes ymlaen, gan Thomas Pennant.[2]

Mynediad[golygu | golygu cod]

Mae'r safle ar dir comin agored. Gellir ei gyrraedd o Benmaenmawr trwy ddilyn un o ddau lwybr o'r dre (dilynwch yr arwyddion 'Druids' Circle') neu o Lanfairfechan trwy ddringo'r ffordd i fynedfa y chwarel ac wedyn cerdded ar hyd Llwybr y Gogledd, sy'n mynd heibio i'r safle. Gellir defnyddio'r un llwybr i gyrraedd y Meini Hirion o gyfeiriad Bwlch Sychnant, rhwng Conwy a Phenmaenmawr, hefyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Christopher Houlder, Wales: an Archaeological Guide (Llundain, 1978).
  2. Frances Lynch, Gwynedd, yn y gyfres 'A Guide to Ancient and Historical Wales' (HMSO, Llundain, 1995).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]