Owen Gethin Jones

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Owen Gethin Jones
Owen Gethin Jones (Gethin, 1816-83) NLW3364544.jpg
Gethin, tua 1875
Ganwyd 1 Mai 1816 Edit this on Wikidata
Bu farw 29 Ionawr 1883 Edit this on Wikidata (66 oed)
Gwaith Awdur, saer, hynafiaethydd, bardd Edit this on Wikidata

Llenor Cymraeg, saer a hynafiaethydd Cymreig oedd Owen Gethin Jones neu "Gethin" (1 Mai 1816 - 29 Ionawr 1883). Roedd yn frodor o blwyf Penmachno (Bro Machno, Sir Conwy).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Gethin ar 1 Mai 1816 yn Tyn-y-cae , Penmachno, yn fab i Owen a Grace Jones. Saer maen oedd ei dad. Dysgodd Gethin grefft ei dad ond yn nes ymlaen bu'n saer coed am gyfnod ac wedyn daeth yn adeiladydd. Priododd yn 1843 ac yn 1852 prynodd fferm Tyddyn Cethin. Ffynnodd fel amaethwr, crefftwr a chontractor. Bu farw ar y 29 o Ionawr 1883, flwyddyn ar ôl cael ei barlysu (canlyniad cael strôc, mae'n debyg).[1]

Llenor a hynafiaethydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Gethin yn fardd eisteddfodol brwdfrydig ond fe'i cofir heddiw fel hynafiaethydd ac fel hanesydd lleol, ac yn enwedig am ei draethodau ar hanes plwyfi Penmachno, Ysbyty Ifan, a Dolwyddelan. Cyhoeddwyd detholiad o'i waith yn 1884, blwyddyn ar ôl ei farw.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddiadiau
  • Gweithiau Gethin (1884). Gyda 'byr-gofiant' iddo.
Astudiaeth

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: