Tŷ Mawr Wybrnant

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tŷ Mawr Wybrnant
Tŷ Mawr Wybrnant ger Penmachno, Betws-y-coed, Conwy, Cymru Wales - home of William Morgan 01.jpg
Tŷ Mawr Wybrnant o'r tu allan
Math  Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 16G Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Conwy Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.0547°N 3.8366°W Edit this on Wikidata
Manylion
Perchnogaeth Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata

Lleolir Tŷ Mawr Wybrnant yng nghwm Wybrnant ym Mhenmachno, ger Betws-y-coed ym mwrdeistref sirol Conwy. Mae'r adeilad hanesyddol yn adnabyddus fel man geni'r Esgob William Morgan, y person cyntaf i gyfieithu'r Beibl cyfan i'r Gymraeg.

Mae'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru ac mae wedi cael ei adfer yn ofalus i edrych fel yr oedd yn yr 16g. Er gwaethaf ei enw nid yw'n dŷ mawr yn ôl safonau heddiw, ond yn yr 16g roedd yn dŷ sylweddol, yn enwedig mewn lle mor ddiarffordd. Mae'n cynnwys sawl enghraifft o ddodrefn Gymreig hynafol a chasgliad o Feiblau Cymraeg, yn cynnwys copi o Feibl William Morgan a argraffwyd yn 1588. Ceir Beiblau mewn sawl iaith arall yno hefyd, yn rhoddion gan ymwelwyr o bedwar ban byd.

Ceir llech wrth ben y drws ac ysgrif arni yn cofnodi mai yno y ganed William Morgan.

Mae hen lwybr dros Fwlch Cyfyng yn cysylltu'r Wybrnant a Dyffryn Lledr. Mae tarddiad yr enw lle 'Wybrnant' yn ansicr. Gallai'r elfen gyntaf wybr olygu "awyr" neu "gwmwl". Ond ceir hen chwedl werin Gymraeg sy'n sôn am wiber hynod a oedd byw yn yn y nant. Roedd yn gallu byw yn y tir neu yn y dŵr ac yn achosi difrod ofnadwy yn y gymdogaeth. Ceisiodd arweinydd gwylliaid y fro gyngor dyn hysbys o ardal Hiraethog i gael gwared o'r anghenfil rheibus a gwneud enw iddo'i hun fel arwr. Ond rhagwelodd y dewin y byddai'n cael ei frathu gan y wiber a marw, a dyna a fu. Mae'n bosibl felly mai llygriad o'r enw '[G]wibernant', sef "Nant y Wiber" yw 'Wybrnant'.[1]

Gellir cyrraedd Tŷ Mawr o bentref Penmachno, 4 milltir o Fetws-y-coed, neu o'r A470 rhwng Betws-y-coed a Dolwyddelan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947), tt. 204-5: 'Gwiber y Wybrnant'.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: