Felinwnda

Oddi ar Wicipedia
Felinwnda
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanwnda Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.101°N 4.278°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map

Ardal fechan ym mhlwyf Llanwnda, Gwynedd yw Felinwnda, sydd ar y ffordd yn arwain o Dinas, Llanwnda i Saron. Ceir ond rhyw ychydig o dai, canolfan gwerthu offer amaethyddol, Ysgol a Chanolfan Gymunedol sef Canolfan Bro Llanwnda a agorwyd yn 2006.

Mae Ysgol Felinwnda yn bodoli ers yr 1890au, a'r prifathro cyntaf oedd yr haneswr o Rostryfan, Gilbert Williams. Ef oedd un o sefydlwyr Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon.

Agorwyd yr ganolfan, Canolfan Bro Llanwnda yn 2006 ar safle cwt y Ffermwyr Ifanc a oedd wedi cau rhai blynyddoedd ynghynt. www.canolfanbrollanwnda.com. Mae'r ganolfan yn ganolfan gymunedol i ardal gwledig eithaf eang, yn cynnwys Llanfaglan, Bontnewydd, Ffrwd Cae Du, Dinas, Dolydd, Tai Lon, Bethesda Bach, Rhos Isaf, Llandwrog, Dinas Dinlle, Chatham a Saron

Yr enw[golygu | golygu cod]

Gyferbyn a'r ysgol oedd y Felin, neu Melin Pengwern ar y cychwyn. Daw Wnda o Sant Gwyndaf, ble mae eglwys Sant Gwyndaf tua milltir i ffwrdd ger stesion Dinas.