Bwthyn Llywelyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bwthyn Llywelyn
Bwthyn Llywelyn 446370.jpg
Math Bwthyn, siop Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.011°N 4.101°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata

Tŷ hynaf Beddgelert, Gwynedd yw Bwthyn Llywelyn neu Tŷ Isaf fel y'i gelwir heddiw (cyfeiriad grid SH590480). Mae'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cael ei ddefnyddio ganddynt fel canolfan.

Cafodd yr enw 'Bwthyn Llywelyn' am fod traddodiad yn ei gysylltu â Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd a Chymru yn hanner cyntaf y 13g. Yn ôl y traddodiad lleol, roedd gan y tywysog neuadd ar y safle a ddefnyddiai pan ddeuai i hela yn yr ardal. Ni ellir profi'r hanes, ond roedd brenhinoedd a thywysogion Gwynedd yn arfer mynd "ar gylch" o lys i lys yng Ngwynedd gan aros fel rheol mewn adeiladau pwrpasol; byddai hynny'n cynnwys neuaddau syml fel, efallai, 'Bwthyn Llywelyn'. Ond mae'n bosibl hefyd nad yw'r "traddodiad" yn hŷn na chyfnod perchennog tafarn y Goat a ddyfeisiodd chwedl Gelert (tua 1800).

Dyddia'r adeilad presennol o'r 17g pan godwyd ffermdy ar y safle. Erbyn diwedd y 18g roedd yr adeilad yn dafarn a oedd yn boblogaidd gyda'r twristiaid cynnar a ymwelai ag Eryri. Cofnodir i ddyn gael ei foddi o fewn y tŷ ei hun yn 1799 pan orlifodd Afon Glaslyn gan ddinistrio'r bont ar yr afon hefyd. yn yr 20g fe drowyd yn Stafell De.[1]

Heddiw mae'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ceir siop yno, cegin adferedig o'r 19eg ganrif ac arddangosfa fach ar hanes ardal Beddgelert a byd natur Eryri.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]