Afon Colwyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Colwyn
Afon Colwyn1.JPG
Afon Colwyn uwchlaw Beddgelert
Math Afon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.08°N 4.082°W Edit this on Wikidata
Llednentydd Afon Glaslyn Edit this on Wikidata
Hyd 10 cilometr Edit this on Wikidata


Mae Afon Colwyn yn afon fechan yng ngogledd Cymru sy'n rhedeg i mewn i Afon Glaslyn.

Mae Afon Colwyn yn tarddu ar lethrau de-orllewinnol Yr Wyddfa. Ar ôl llifo tua'r gorllewin i groesi'r ffordd o Gaernarfon i Feddgelert, yr A4085, ger Pont Cae'r Gors ychydig i'r de o benref Rhyd-ddu, yna'n llifo tua'r de wrth ochr yr A4085 i Feddgelert. Ar y ffordd mae dwy nant, Afon Cwm-du ac Afon Meillionen yn ymuno ag Afon Colwyn. Ym mhentref Beddgelert mae'n ymuno ag Afon Glaslyn.

Mae Afon Colwyn yn afon fer ac yn rhedeg yn gyflym. Fel rheol mae'n cario llai o ddŵr na'r Glaslyn, ond pan mae glaw trwm yn ardal yr Wyddfa gall Afon Colwyn godi yn sydyn iawn.