Llyn Llydaw
Gwedd
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
| Sir | Gwynedd |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 0.45 km² |
| Uwch y môr | 436 metr |
| Cyfesurynnau | 53.0686°N 4.0472°W |
| Cadwyn fynydd | Eryri |
![]() | |
Mae Llyn Llydaw yn llyn sydd wedi'i leoli ar ochr yr Wyddfa yn Eryri. Mae'n llyn hir, cul yn Nghwm Dyli, sydd tua thraean o'r ffordd i gopa'r Wyddfa, a chydag arwynebedd o 110 acer, Llydaw yw'r mwyaf o'r llynnoedd ar lethrau'r Wyddfa. Gan fod Trac y Mwynwyr i gopa'r Wyddfa yn mynd heibio'i lannau, mae'n llyn adnabyddus iawn. Nid oes unrhyw gysylltiad amlwg rhwng y llyn a Llydaw i egluro'r enw.
Mae'r llyn yn cyflenwi dŵr, trwy bibell ar yr wyneb, i orsaf trydan hydro Cwm Dyli, sydd 320m yn is ar lawr Nant Gwynant. Dyma'r system cynhyrchu trydan cyntaf o'i bath yng ngwledydd Prydain, ac fe'i hagorwyd yn 1906.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Llyn Llydaw o'r Wyddfa
-
Llyn Llydaw o'r Grib Goch
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)
