Egni llanw

Math o Egni hydro yw egni llanw sy'n ffynhonnell egni adnewyddadwy ac sy'n defnyddio egni o donnau'r môr i gynhyrchu egni trydannol.
Mae tonnau a llanw a thrai'n fwy dibynadwy, yn fwy cyson na'r gwynt o safbwynt cynhyrchu trydan. Ceir dau brif fath: gorsaf bwer llif y dŵr a morlynnoedd.
Gorsaf bwer llif y dŵr[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gorsaf bwer llif y dŵr (dynamic tidal power) yn dibynnu ar symudiad y dŵr wrth iddo ddod i mewn neu fynd allan gan droi breichiau melin tebyg i felin wynt ar ben i lawr. Ond yn wahanol i egni'r gwynt, neu gelloedd solar, mae'n dibynu ar system lloer-daear: y lloer yn atynnu'r eigion ato, ddwywaith y dydd.
Morlynnoedd[golygu | golygu cod y dudalen]
Morglawdd enfawr o garreg, fel arfer, sy'n cynnal dŵr y llanw a'i ollwng drwy dwrbein yw morlyn ee Morlyn Llanw Abertawe. Gweithia ar ei orau pan fo lefel y penllanw a lefel y trai ar ei eithaf yn fawr. Ym Morlyn Llanw Abertawe, mae'r gwahaniaeth hwn yn 10.5m metr ar ei uchaf. Bydd y morlyn yn cael y gallu i gynhyrchu 320 MW o bŵer.[1]
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Defnyddiwyd melinau llanw a thrai ers cyn yr Oesoedd Canol i droi offer mecanyddol ee maen melin i falu blawd. Adeiladwyd Melin Lanw Caeriw yn 1801 ond fe'i codwyd ar hen gaer o Oes Haearn a chrerir y pwll gan argae ar draws Afon Caeriw, drwy gau'r llifddorau pan fo'r llanw yn ei anterth (ar ei uchaf).. O dan y felin ei hun ceir dau lif-ddôr er mwyn gollwng y dŵr pan fo'r môr ar drai. Wrth i'r dŵr basio'r llifddorau hyn mae'n troi dwy olwyn ddŵr enfawr a hyn, yn ei dro'n troi olwynion cocos ac yn malu'r ŷd. Dyma'r unig felin lanw o'i bath yng Nghymru. Caewyd drysau'r felin yn 1937 ond yn 1972 dechreuwyd ei hadfer gan ei hagor fel arddangosfa ac oddi wefn ceir amgueddfa.
Yn 1966, roedd gorsaf pŵer llanw cyntaf y byd, sef Stankell vordredan ar Renk (Ffrangeg: Usine marémotrice de la Rance) yn Llydaw, wedi dechrau cynhyrchu trydan a gall gynhyrchu uchafswm o 240 MW[2]. Agorodd y 'Sihwa Lake Tidal Power Station' yn Ne Corea yn 2011, ac ar hyn o bryd yw'r orsaf pŵer llanw mwyaf y byd.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Key Statistics".
- ↑ "La Rance Tidal Power Plant" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-01-18.