Morlyn Llanw Abertawe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun dychmygol o'r morlyn gorffenedig; fel y rhagwelir gan y cwmni 'Tidal Lagoon Power'; 2016.

Cynllun i harneisio ynni carbon isel ym Mae Abertawe yw Morlyn Llanw Abertawe, a fydd y mwyaf o'i fath drwy'r byd ar ôl ei gwbwlhau.[1] Saif Bae Abertawe o fewn aber yr afon Hafren ac amrediad llanw'r aber yw'r ail fwyaf yn y byd - gyda'r gwahaniaeth rhwng trai a llanw cymaint a 10.5m metr ar ei uchaf.[2] Lleolir y morlyn, a'i forglawdd, i'r de o Ddoc y Frenhines - rhwng Afon Tawe a ac Afon Nedd. Disgwylir y bydd y prosiect yn cynhyrchu 250MW o drydan - digon i gyflenwi 155,000 o gartrefi, dros gyfnod o 120 o flynyddoedd.

Lagŵn llanw a thrai yw Lagŵn Bae Abertawe a fydd yn cynhyrchu ynni oherwydd y gwahaniaeth yn lefelau'r dŵr y tu fewn a thu allan i'r forglawdd. Mewn 24 awr, ceir dau lanw a dau drai, ac felly bydd yn ofynol i'r tyrbeini weithio'r naill ffordd a'r llall - yn ôl ac ymlaen, wrth i'r trai a llanw greu'r newid yn lefel y dŵr.

Derbyniwyd caniatâd cynllunio ym Mehefin 2015 gan Lywodraeth y DU.[3]. Mae'n debygol y bydd cynlluniau tebyg yn cael eu hystyried ym Mae Caerdydd ac yng Nghasnewydd, ar raddfa llai. Disgwylir y bydd cyfanswm y gost oddeutu £1bn o arian preifat, drwy gyfranddaliadau. Ar 12 Ionawr 2017 cyhoeddwyd adroddiad annibynol Charles Hendry a oedd yn cefnogi'r morlyn a fynai y byddai'n "gyfraniad sylweddol" i ynni gwledydd Prydain a'i fod yn gost-effeithiol.

Adeiladu a'r economi leol[golygu | golygu cod y dudalen]

Bydd llawer o'r cydrannau'n cael eu creu yn lleol e.e. pob un o'r 25 tyrbein, y llifddorau, y cledrau, y peiriannau rheoli trydan, y gwaith concrid a'r ganolfan ymwelwyr. Credir y bydd y buddsoddiad yn yr economi leol, felly, dros £500,000. Yn ei anterth, bydd y gwaith adeiladu'n cyflogi oddeutu 1,900 o weithwyr llawn amser. Pan fydd y prosiect yn cynhyrchu trydan, amcangyfrifir y bydd oddeutu 180 o swyddi ac y bydd 70-100,000 o ymwelwyr yn cyrchu i'r fan hon. O ran incwm, disgwylir y bydd yn cynhyrchu £76 miliwn o bunnoedd. Yn groes i addewidion y cwmni, fodd bynnag, cwmni o Tsieina fy yn ymgymryd â'r gwaith o godi'r forglawdd.[4]

Mae'r tyrbeini, a fydd yn barhaol o dan wyneb y dŵr, wedi'u sefydlu ar dechnoleg parod ac yn debyg iawn i'r rhai ym Morglawdd La Rance, Llydaw.[5] Mae llafnau mewnol y tyrbein yn 7m o hyd. Cost y strwythyr dal tyrbeini 410-metr fydd £200m ac enillwyd y cytundeb am y gwaith gan Laing O’Rourke, cytundeb fydd yn creu 500 o swyddi.[4]

Maint[golygu | golygu cod y dudalen]

Bydd y morglawdd ei hun yn 9.5 km (chwe milltir) o hyd ac yn gweithredu hefyd fel morglawdd i Ddinas Abertawe gan amddiffyn adeiladau a phobl y ddinas rhag llid y llanw uchel, yn enwedig o ystyried y gall lefel y môr godi. Bydd yn troelli am ddwy filltir o'r traeth i'r môr.

Gwrthwynebiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir gwrthwynebiad i'r morlyn o ddau gyfeiriad: yn gyntaf oherwydd fod Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig gerllaw (Blackpill) ac yn ail oherwydd y bwriedir cloddio'r cerrig o hen chwarel Dean Point ger St Kevergne yng Nghernyw.[6][7][8]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. www.tidallagoonswanseabay.com; adalwyd 18 Mehefin 2015
  2. Tidal Lagoon Swansea Bay
  3. infrastructure.planningportal.gov.uk; adalwyd 18 Mehefin 2015
  4. 4.0 4.1 www.theguardian.com; The Guardian; adalwyd 18 Mehefin 2015
  5. www.tidallagoonswanseabay.com; adalwyd 18 Mehefin 2015
  6. Papur y Telegraph; adalwyd 18 Mehefin 2015
  7. Papur y Telegraph; adalwyd 18 Mehefin 2015
  8. Papur y Telegraph; adalwyd 18 Mehefin 2015