Melin Lanw Caeriw

Oddi ar Wicipedia
Melin Caeriw
Mathmelin lanw Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCaeriw Edit this on Wikidata
SirCaeriw Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1.6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.699°N 4.8354°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Melin ŷd yn Sir Benfro, Cymru, wedi'i bweru gan y llanw yw Melin Lanw Caeriw, sy'n fath o felin Ffrengig. Cafodd ei hadeiladu tua 1801 ychydig i'r gorllewin o Gastell Caeriw, gan ddisodli melin llawer hŷn a safodd yma am ganrifoedd cyn hynny. Mae'n enghraifft of felin lanw (gelwir hefyd, weithiau'n 'felin môr').

Pwll y felin yw Afon Caeriw, a chrerir y pwll gan argae ar draws yr afon drwy gau'r llifddorau pan fo'r llanw yn ei anterth (ar ei uchaf). O dan y felin ei hun ceir dau lif-ddôr er mwyn gollwng y dŵr pan fo'r môr ar drai. Wrth i'r dŵr basio'r llifddorau hyn mae'n troi dwy olwyn ddŵr enfawr a hyn, yn ei dro'n troi olwynion cocos ac yn malu'r ŷd. Dyma'r unig felin lanw o'i bath yng Nghymru. Caewyd drysau'r felin yn 1937 ond yn 1972 dechreuwyd ei hadfer gan ei hagor fel arddangosfa ac oddi wefn ceir amgueddfa.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Saif Melin Lanw Caeriw ar ben deheuol argae garreg 150 m (490 tr)  ar draws yr Afon Caeriw, afon fechan sy'n llifo i'r môr yn Aberdaugleddau. Saif Castell Caeriw o fewn tafliad carreg - dim ond 300 metr i'r dwyrain ac a adeiladwyd yn 1270.[1] Mae'r safle bellach yn adfeilion, ond fe'i codwyd ar hen gaer o Oes Haearn

Ceir cofnodion o felin llawer hŷn na'r un bresennol, a godwyd o bosib tua'r un adeg a'r castell.[1] Credir mai ffrwd fechan oedd yn pweru'r hen felin yn hytrach na phwll enfawr o ddŵr. Mae'r cofnodion yr hen felin yn mynd yn ôl i 1541.[3] Paratowyd 'Cyfrifon y Gweinidogion' ar gyfer Harri VIII (r. 1509-47) ac maent yn sôn am "ddwy felin o dan yr un to, ac a elwir yn 'Felinau Ffrengig". Dylid cofio am gysylltiad Harri Tudur ei dad gyda'r ardal. Mae'r enw'n deillio o'r meini melin crwn a wnaed o gerrig a gludwyd yma o Ffrainc.[4] Gwyddom mai John Bartlett gymerodd brydles y felin yn 1558 a hynny am ffi o 10 sofren, yn flynyddol.[3] Cafodd ei adfer yn 1792 yn dilyn tân.[1]

Adeilad[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]