Ynys Welltog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ynys Welltog
Math ynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliad Afon Menai Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.222064°N 4.174697°W Edit this on Wikidata

Ynys fechan yn Afon Menai gerllaw Porthaethwy, yn weddol agos i lan Ynys Môn ydy Ynys Welltog. Saif rhwng Ynys Dysilio ac Ynys Gored Goch.

Ynys Welltog ger Porthaethwy

Nid oes cofnod i neb fod yn byw ar yr ynys, sy'n cynnwys creigiau ac ychydig o goed isel. Yn 2003 a 2004 nythodd nifer o barau o'r Creyr Bach ar yr ynys yma, y tro cyntaf i'r rhywogaeth yma nythu yng ngogledd Cymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]