John Phillips (addysgwr)
Gwedd
John Phillips | |
---|---|
Ganwyd | 1810 Pontrhydfendigaid |
Bu farw | 9 Hydref 1867 Brynteg |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, pennaeth |
Addysgwr o Gymruoedd John Phillips (1810 – 9 Hydref 1867). Ganed mewn tlodi mawr ym Mhontrhydfendigaid ger Ystrad Fflur yng nghanolbarth Ceredigion. Cafodd ei dderbyn i Brifysgol Caeredin yn 1833 gan adael yn 1835 i fynd yn weinidog i Dreffynnon ac yna i Fangor yn 1847.
Yn araf, ymneilltuodd o'r weinidogaeth er mwyn agor ysgolion gan deithio o le i le ar gefn ei geffyl. Cydweithiodd gyda ffrind iddo, sef Hugh Owen i sefydlu coleg hyfforddi athrawon ym Mangor, sef Coleg y Normal (yna 'y Coleg Normal' sydd bellach yn rhan o'r brifysgol).