Edward Carpenter

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Edward Carpenter
Day, Fred Holland (1864-1933) - Edward Carpenter.jpg
Ganwyd 29 Awst 1844 Edit this on Wikidata
Hove Edit this on Wikidata
Bu farw 28 Mehefin 1929 Edit this on Wikidata (84 oed)
Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth bardd, athronydd, awdur Edit this on Wikidata

Roedd Edward Carpenter (29 Awst 184428 Mehefin 1929) yn fardd sosialaidd, yn athronydd ac yn anthropolegydd cynabyddedig. Mae'n fwyaf nodedig am ei lyfr Civilisation, Its Cause and Cure.

Cafodd Edward Carpenter ddylanwad mawr ar ewythr a thad y bardd o Gymro, Waldo Williams, ac ar Waldo ei hun. Roedd Carpenter yn un o brif sefydlwyr y Blaid Lafur Annibynnol. Roedd yn gyfaill i Rabindranath Tagore a Walt Whitman.[1] Cyfatherbai gyda Annie Besant, Isadora Duncan, Havelock Ellis, Roger Fry, Mahatma Gandhi, Keir Hardie, William Morris, Edward R. Pease a John Ruskin.[2]

Fel athronydd caiff ei gofio'n bennaf am ei gyfrol Civilisation, Its Cause and Cure ble mae'n awgrymu mai math o afiechyd yw gwareiddiad.[3]. Llyfr arall dylanwadol ar Waldo Williams oedd The Healing of Nations and the Hidden Sources of their Strife

Credai'n gryf mewn 'rhyddid rhyw' a dylanwadodd ar D. H. Lawrence, Sri Aurobindo, ac ysbrydolodd nofel E. M. Forster Maurice.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. [http://www.leylandpublications.com/exc_gaysuccess.html Rhan o lyfr Gay Roots, Cyfrol I: THE GAY SUCCESSION; Gay Sunshine Journal 35 (1978); adalwyd Medi 2014
  2. FABIAN ECONOMIC AND SOCIAL THOUGHT Series One: The Papers of Edward Carpenter, 1844-1929, from Sheffield Archives Part 1: Correspondence and Manuscripts Archifwyd 6 October 2007 yn y Peiriant Wayback. at www.adam-matthew-publications.co.uk
  3. Carpenter, Edward. Civilisation, Its Cause and Cure. 
  4. Andrew Harvey, ed. (1997). The Essential Gay Mystics.