J. Edwal Williams
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o J Edwal Williams)
| J. Edwal Williams | |
|---|---|
| Ganwyd | 1863 Llandysilio |
| Bu farw | 1934 Sir Benfro |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | bardd, athro |
| Priod | Angharad Jones |
| Plant | Waldo Williams, Morvydd Monica Williams, Dilys Williams, Mary Enid Williams |
Tad Waldo Williams oedd John Edwal Williams a adwaenid fel J. Edwal Williams (1863–1934).[1] Priododd Angharad Jones (nee Jones; 1875-1932)) ym 1875.
Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Normal, Bangor o 1887 hyd 1888. Ar ôl cyfnod fel athro yn Lloegr penodwyd ef yn brifathro Ysgol y Cyngor, Pendregast, Hwlffordd. Daeth yn brifathro Ysgol Gynradd Mynachlog-ddu ar 21 Awst 1911 pan oedd Waldo ar fin cael ei ben-blwydd yn saith oed.

Roedd yn fardd gwlad, ac yn ogystal a'i frawd Gwilamus (ewythr Waldo) yn ysgrifennu cerddi vers libre, peth anarferol ac amhoblogaidd ar y pryd.[2]
Un o'r prif ddylanwadau ar J. Edwal Williams oedd Edward Carpenter, y bardd a'r sosialydd. Oddi wrth ei dad yr etifeddodd Waldo yr egwyddor o frawdoliaeth.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ WILLIAMS, WALDO GORONWY (1904–1971), bardd a heddychwr.. Llyfrgell Cenedlaethol Cymru (2017). Adalwyd ar 15 Mawrth 2018.
- ↑ t. 12, t. 14 Stori Waldo Williams gan Alan Llwyd Barddas