Brogyntyn

Oddi ar Wicipedia
Brogyntyn
Portico Neuadd Brogyntyn
Mathtŷ bonedd Seisnig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolstad Brogyntyn Edit this on Wikidata
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.8729°N 3.0723°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ2792431138 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Plasdy ac ystad o darddiad Cymreig ym mhlwyf Selatyn ger Croesoswallt, Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Brogyntyn. Er iddo ddechrau fel ystad fechan ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, tyfodd i fod yn un o ystadau mwyaf gogledd Cymru (er ei fod yn Lloegr roedd yr ardal o gwmpas Brogyntyn yn Gymreig iawn am ganrifoedd).

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd castell Cymreig ar dir Brogyntyn yn y 12g, efallai gan Owain Brogyntyn, un o dywysogion Teyrnas Powys. Castell mwnt a beili ydyw: dim ond ei olion sy'n goroesi heddiw, ym Mharc Brogyntyn.

Trwy gyd-briodas ymledodd cysylltiadau'r teulu ac ychwanegwyd i gyfoeth yr ystad. Tro mawr yn hanes yr ystad oedd y briodas rhwng Syr William Maurice, aer Clenennau, gydag aeres Brogyntyn yn yr 16g. Roedd teulu'r llenor Ellis Wynne yn perthyn iddi yn y 17g. Ar ddechrau'r 19g, trwy briodas eto, sefydlwyd llinach Arglwydd Harlech.

Dros y canrifoedd, casglwyd llyfrgell ym Mrogyntyn a oedd yn cynnwys nifer o lyfrau prin a chasgliad pwysig o lawysgrifau Cymreig. Daeth yr rhain, ynghyd â nifer fawr o bapurau a chofnodion yn ymwneud â Chymru, i feddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn yr 20g lle y'u cedwir heddiw fel 'Llawysgrifau Brogyntyn'.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

Ceir cyfres o erthyglau gan E. D. Jones ar Lawysgrifau Brogyntyn a'u cefndir yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (cyfrolau v-viii, 1948-53).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]