Selattyn
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Selatyn)
Math | pentref |
---|---|
Ardal weinyddol | Selattyn and Gobowen |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.8981°N 3.0914°W |
Cod OS | SJ266339 |
Pentref yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Selattyn[1] (neu Sylatyn). Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Selattyn and Gobowen yn awdurdod unedol Swydd Amwythig.
Saif ger tref Croesoswallt. Mae'n gorwedd ar y ffin â Chymru ac mae ganddo gysylltiadau cryf â hanes a diwylliant Cymru. Hyd gyfnod y Deddfau Uno roedd Selattyn a'r ardal o'i gwmpas yn rhan o Gymru.
Yn Selattyn ceir plasdy hynafol Brogyntyn, canolfan ystad fawr a chwaraeodd ran bwysig yn hanes gogledd Cymru yn y cyfnod modern a chartref i gasgliad pwysig o lawysgrifau Cymreig a ddiogelir heddiw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Fanny Mary Katherine Bulkeley-Owen, awdures
- Rhestr enwau Cymraeg ar drefi a llefydd eraill yn Lloegr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 9 Medi 2020