Barwn Penrhyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolteitl bonheddig Edit this on Wikidata
GwladwriaethY Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Barwn Penrhyn (neu fel rheol ar lafar Arglwydd Penrhyn) yw'r teitl a ddelir gan deulu Douglas-Pennant, oedd yn dirfeddianwyr o bwysigrwydd mawr yng ngogledd-orllewin Cymru yn y 19g a dechrau'r 20g. Roeddynt yn fwyaf adnabyddus fel perchenogion Chwarel y Penrhyn ger Bethesda, ar un adeg y chwarel fwyaf yn y byd. Roedd cartref y teulu yng Nghastell Penrhyn ger Llandygai.

Crewyd y teitl ddwywaith, y tro cyntaf fel rhan o Bendefigaeth Iwerddon i Richard Pennant, a oedd gynt yn Aelod Seneddol dros Petersfield a Lerpwl. Daeth y farwniaeth yma i ben pan fu ef farw yn 1808.

Ail-grewyd y farwniaeth yn rhan o Bendefigaeth y Deyrnas Unedig yn 1866, pan wnaed Edward Gordon Douglas-Pennant yn Farwn Penrhyn o Landygai. Cynrychiolodd Gaernarfon yn Nhŷ'r Cyffredin (DU) gynt, a gwasanaethodd fel Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon. Rhoddwyd iddo ystâd ei dad yng nghyfraith (cefnder ac etifeddwr y barwn o'r greadigaeth gyntaf yn 1783) ar yr amod ei fod yn cymryd cyfenw ei wraig cyn iddi briodi, sef Pennant. Roedd yr Arg lwydd Penrhyn yn frawd ieuengaf i George Sholto Douglas, 17fed Iarll Morton. Priododd Juliana Isabella Mary Pennant (bu farw 1842) yn 1833, merch hynaf, a chyd-etifeddwraig George Hay Dawkins Pennant o Gastell Penrhyn, a bu farw yn 1841, cymerodd y cyfenw Pennant o dan drwydded brenhinol.

Olynwyd Arglwydd Penrhyn gan ei fab hynaf, yr ail-farwn. Cynrychiolodd ef Gaernarfon yn y Senedd fel aelod Ceidwadol. Ar ei farwolaeth, fe basiodd y teitl ymlaen i'w fab, y trydydd Barwn. Roedd ef yn ei dro yn aelod seneddol Ceidwadol dros De Northampton. Olynwyd o gan ei fab y pedwerydd Barwn, a oedd yn Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon o 1933 hyd 1941. Ar ei farwolaeth yn 1949, fe ddaeth llinach mab hynaf y Barwn cyntaf i ben. Olynwyd o gan fab ei gefnder, y pumed Barwn; mab i'r Anrhydeddus Archibald Charles Henry Douglas-Pennant, ail fab y Barwn cyntaf. Rodd Arglwydd Penrhyn yn 101 mlwydd a 74 diwrnod oed pan fu farw ar 3 Chwefror 1967, ef oedd yr arglwydd etifeddol hynaf erioed. Ni dorrwyd y record hwn hyd marwolaeth 7fed Is-iarll St Vincent ym mis Medi 2006.

Olynwyd ef gan ei fab, y chweched Barwn. Deilwyd y teitl gan nai'r chweched Barwn ers 2007. Fel disgynnydd o'r 14ydd Iarll Morton, roedd hefyd yn relyw i'r bendefigaeth hod a'r is-deitl Arglwyddiaeth Dalkeith.

Roedd Muriel Fitzroy, Is-Iarlles 1af Daventry, gwraig Edward Fitzroy, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, yn chwaer i bumed Barwn Penrhyn. Mae'r teulu Douglas, o'r ail greadigaeth, o'r un llinach ac Ardalyddesau Queensbury (nodir ymddangosiad yr enw canol, Sholto yn y ddau deulu), a hefyd yn perthyn i Ieirll Home.

Y greadigaeth gyntaf (1783)[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr ail greadigaeth (1866)[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n debygol mai'r etifeddwr nesaf fydd mab y deilydd presennol, sef Edward Douglas-Pennant (ganwyd 1966)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]