Xenophon
| Xenophon | |
|---|---|
| Ganwyd | c. 430 CC, 430s CC Erchia |
| Bu farw | c. 354 CC Corinth |
| Dinasyddiaeth | Athen yr henfyd |
| Galwedigaeth | hanesydd, hurfilwr, athronydd, person milwrol, ysgrifennwr |
| Swydd | strategos |
| Adnabyddus am | Hiero, Cyropaedia |
| Plant | Gryllus, Diodorus |
Cadfridog a hanesydd Groegaidd oedd Xenophon (Hen Roeg: Ξενοφῶν, Groeg diweddar:: "Ξενοφών", "Ξενοφώντας"; c.. 431 CC – 355 CC).
Ganed ef tua 430 CC gerllaw dinas Athen, yn fab i Gryllus ac o deulu uchelwrol. Yn 401 CC, cymerodd ran yn ymgyrch Cyrus yr Ieuengaf i geisio cipio gorsedd Ymerodraeth Persia oddi ar ei frawd, Artaxerxes II. Roedd byddin Cyrus yn cynnwys tua 10,000 o hurfilwyr Groegaidd.
Ym mrwydr Cunaxa, i’r gogledd o ddinas Babilon, lladdwyd Cyrus yn yr ymladd. Gwahoddodd Artaxerxes II arweinydd y Groegiaid, Clearchus. i gynhadledd heddwch, ond cymerodd ef yn garcharor a’i ddienyddio. Etholodd y Groregiaid arweinyddion newydd, yn cynnwys Xenophon, cyn ymladd eu ffordd yn ôl at yr arfordir. Ysgrifennodd Xenophon hanes taith y Deng Mil yn ôl i Wlad Groeg fel yr Anabasis ("Yr Ymgyrch”).
Yn ddiweddarach, alltudiwyd ef o Athen, efallai am iddo ymladd dros Sparta yn erbyn Athen ym Mrwydr Coronea yn 394 CC. Roddodd Sparta dir iddo ger Olympia yn Elis. Caniatawyd iddo ddychwelyd i Athen wedi i’w fab, Gryllus, farw yn ymladd dros Athen ym Mrwydr Mantinea.
Roedd yn edmygydd o Socrates ac ysgrifennodd nifer o weithiau ar ei athroniaeth. Mae ei fersiwn ef o Socrates yn bur wahanol i fersiwn Platon.
Gweithiau
[golygu | golygu cod]Hanesyddol
[golygu | golygu cod]Socratig
[golygu | golygu cod]Eraill
[golygu | golygu cod]- Ar Farchogaeth
- Hipparchikos (Cadfridog y Marchoglu)
- Kynegetikos (Hela â chŵn)
- Dulliau
- Cyfansoddiad Lacedaemon