Cyrus yr Ieuengaf

Oddi ar Wicipedia
Cyrus yr Ieuengaf
Ganwyd5 g CC Edit this on Wikidata
Bu farw401 CC Edit this on Wikidata
o lladdwyd mewn brwydr Edit this on Wikidata
Battle of Cunaxa Edit this on Wikidata
Galwedigaethswyddog milwrol Edit this on Wikidata
Swyddsatrap Edit this on Wikidata
TadDarius II, brenin Persia Edit this on Wikidata
MamParysatis Edit this on Wikidata
PriodAspasia the Younger Edit this on Wikidata
LlinachBrenhinllyn yr Achaemenid Edit this on Wikidata

Mab ieuengaf Darius II, brenin Persia a'i frenhines Parysatis oedd Cyrus yr Ieuengaf (bu farw 401 CC).

Yn 408 CC, ar anogaeth Parysatis, gwnaeth Darius II Cyrus yn satrap (llywodraethwr) Lydia, Phrygia a Cappadocia ac yn bennaeth y byddinoedd yn Asia Leiaf yn lle Tissaphernes. Bu Cyrus yn cydweithio a Sparta i wrthwynebu Athen.

Yn 401 CC, cymerodd Cyrus fantais ar ei gweryl gyda Tissaphernes i godi byddin o tua 20,000 o wŷr, yn cynnwys tua 10,000 o hurfilwyr Groegaidd. Wedi croesi Afon Ewffrates, cyhoeddodd Cyrus ei fod am gipio gorsedd Ymerodraeth Persia oddi ar ei frawd, Artaxerxes II. Cododd Artaxerxes fyddin yn ei erbyn, ac ym mrwydr Cunaxa, i’r gogledd o ddinas Babilon, lladdwyd Cyrus yn yr ymladd.

Cofnodir hanes taith hurfilwyr Groegaidd Cyrus yn ôl i Wlad Groeg gan Xenophon, un o'u harweinwyr, yn yr Anabasis ("Yr Ymgyrch”).