Elis

Oddi ar Wicipedia
Elis

Rhanbarth yng Ngroeg yr Henfyd oedd Elis, neu Eleia (Groeg diweddar: Ήλιδα Ilida, Hen Roeg: Ἦλις, hefyd Ēlis, Groeg Dorig: Ἆλις). Mae'n cytateb i Dalaith Elis heddiw. Saif ar arfordir gorllewinol y Peloponnesos, gydag Achaea i'r gogledd, Arcadia i'r dwyrain a Messenia i'r de.

Yn nhiriogaeth Elis y cynhaliwyd y Gemau Olympaidd gyntaf yn yr 8fed ganrif CC yn Olympia. Roedd y dyfarnwyr, yr Hellanodikai, o Elis.

Heddiw mae Elis yn bentref bychan gyda tua 150 o drigolion, 14 km i'r gogledd-ddwyrain o Amaliada.

Pobl enwog o Elis[golygu | golygu cod]