Marathon, Groeg
Gwedd
| Math | tref |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Marathon |
| Poblogaeth | 5,260, 4,297, 4,964, 7,170, 2,313 |
| Gefeilldref/i | Santa Maria Capua Vetere, Xiamen |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bwrdeistref Marathonas, Commune of Marathon |
| Gwlad | Gwlad Groeg |
| Arwynebedd | 226.6 km² |
| Uwch y môr | 44 metr |
| Yn ffinio gyda | Varnavas |
| Cyfesurynnau | 38.1533°N 23.9619°E |
| Cod post | 190 07 |
![]() | |
Mae Marathon (Groeg Demotig: Μαραθώνας, Marathónas; Groeg Katharevousa: Μαραθών, Marathón) yn dref yn Attica, Gwlad Groeg, sy'n fwyaf enwog fel safle Brwydr Marathon yn 490 CC, pan orchfygwyd y Persiaid gan yr Atheniaid.
Saif Marathon tua 26.2 milltir (42 km) i'r gogledd-ddwyrain o ddinas Athen. Yn ôl y traddodiad, rhedodd yr Atheniad Phidippides o faes y frwydr i Athen gyda'r newyddion am y fuddugoliaeth, a syrthiodd yn farw ar ôl trosglwyddo'r newydd. Y pellter yma a ddefnyddiwyd ar gyfer y ras fodern, y Marathon.
Claddwyd yr Atheniaid a laddwyd yn y frwydr, 192 ohonynt, dan domen gladdu gerllaw. Mae colofn farmor ar y domen yn awr, a pharc bychan o'i hamgylch.
Roedd poblogaeth cymuned Marathon yn 5,453 yn 1991.
