Hammurabi
Gwedd
| Hammurabi | |
|---|---|
| Ganwyd | 1810 (yn y Calendr Iwliaidd) CC Babylonia, Old Babylonian Empire |
| Bu farw | 1750 (yn y Calendr Iwliaidd) CC Babylonia |
| Dinasyddiaeth | Babylonia |
| Galwedigaeth | brenin, teyrn, arweinydd |
| Swydd | King of Babylon |
| Adnabyddus am | Cyfraith Hammurabi |
| Rhagflaenydd | Sin-Muballit |
| Tad | Sin-Muballit |
| Plant | Samsu-iluna |
| Llinach | Old Babylonian Empire |

Chweched brenin Babilon oedd Hammurabi (c. 1795 CC – 1750 CC). Acadeg yw'r ffutf yma ar ei enw, o'r Amoreg ˤAmmurāpi. Ef a sefydlodd ymerodraeth Babilon, gan ennill cyfres o fuddugoliaethau yn erbyn teyrnasoedd eraill Mesopotamia; erbyn diwedd ei oes roedd yn feistr Mesopotamia oll.
Mae'n fwyaf adnabyddus am Gyfraith Hammurabi, un o'r esiamplau cynharaf mewn hanes o ddeddfau ysgrifenedig. Cafwyd hyd i'r rhain yn 1901, wedi eu hysgrifennu ar dabled garreg, dros chwe troedfedd o uchder, yn Susa, lle roedd wedi ei ddwyn gan yr Elamitiaid. Mae'n awr yn Amgueddfa'r Louvre, Paris.