Erzurum
| Math | bwrdeistref fetropolitan Twrci, dinas fawr, dinas |
|---|---|
| Cysylltir gyda | E80 |
| Poblogaeth | 767,848 |
| Cylchfa amser | UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | Kemalpaşa |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tyrceg |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Erzurum, Erzurum vilayet, Erzurum eyalet |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 1,900 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 39.9097°N 41.2756°E |
| Cod post | 25x xxx |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Erzurum |
![]() | |
Dinas yn ne-ddwyrain Twrci a chanolfan weinyddol y dalaith o'r un enw (Erzurum) yw Erzurum.
Mae'n gorwedd mewn llecyn strategaidd wrth droed mynyddoedd dwyrain Anatolia ar y briffordd rhwng Ankara, prifddinas Twrci, a Tehran, prifddinas Iran. Mae rheilffordd yn ei chysylltu ag Ankara ac Iran yn ogystal.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ers canrifoedd mae Erzurum wedi bod yn faen clo i amddiffyn y wlad rhag ymosodiadau o'r dwyrain. Mae'n gorwedd ar gangen bwysig o Lwybr y Sidan ac rheolai ffordd y carafanau a'r fasnach dir rhwng Ewrop a'r Dwyrain Pell. O'r herwydd roedd gan nifer o wledydd Ewropeaidd eu cynrychiolwyr yno yn y gorffennol, e.e. Lloegr mor gynnar â 1690.
Adeiladau ac Atyniadau
[golygu | golygu cod]Nodweddir y ddinas gan nifer o adeiladau hardd iawn o gyfnod y Seljuciaid, yn eu plith mosg trawiadol y Çifte Minare a'r hen ysgol Islamaidd, y Yakutiye Medrese, a godwyd ym 1308. Sefydlwyd prifysgol Erzurum yn 1957.
