Llyn Zarivar
Gwedd
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir Marivan |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 35.53°N 46.13°E |
| Hyd | 5 cilometr |
| Cadwyn fynydd | Zagros |
![]() | |
| Statws treftadaeth | safle Ramsar |
| Manylion | |
Llyn yng ngorllewin Iran yw Llyn Zarivar neu Zrewar (Cwrdeg: Zrêwar neu Zrêbar, Perseg: زریوار Zarivar).
Lleolir y llyn yn nhalaith Cyrdistan yng ngorllewin Iran, ger y ffin â Twrci. Ei hyd yw 5 km a'i led mwyaf yw 1.6 km. Mae'n gorwedd i'r gorllewin o dref Marivan. Mae'r dŵr yn groyw am fod y llyn yn gorwedd 1,285 medr i fyny yn y mynyddoedd. Mae Afon Zrêbar yn llifo o'r llyn.
Mae Llyn Zarivar yn boblogaidd gan dwristiaid yn Iran a cheir sawl chwedl werin Cyrdaidd amdani. Cyrdiaid ethnig yw'r mwyafrif o'r bobl sy'n byw o gwmpas y llyn, sy'n gorwedd yn nhiriogaeth hanesyddol Cyrdistan.
