Cyrdistan (talaith Iranaidd)
| Math | Taleithiau Iran |
|---|---|
| Prifddinas | Sanandaj |
| Poblogaeth | 1,603,011, 1,493,645, 1,440,156 |
| Cylchfa amser | UTC+03:30 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Iran |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 29,137 km² |
| Yn ffinio gyda | Sulaymaniyah Governorate, West Azarbaijan Province, Talaith Hamadan, Halabja Governorate, Talaith Zanjan, Talaith Kermanshah |
| Cyfesurynnau | 35.7278°N 46.9669°E |
| IR-12 | |
![]() | |
| Canran y diwaith | 11.6 canran |

Un o 30 talaith Iran sy'n gorwedd yn nhiriogaeth draddodiadol Cyrdistan, gwlad y Cyrdiaid, yw Talaith Cyrdistan neu Kordestan (Perseg: استان کردستان, Ostâne Kordestân; Cyrdeg: پارێزگه ی کوردستان, Parêzgeha Kurdistanê). Mae'n rhan o'r Cyrdistan Iranaidd hefyd, sy'n diriogaeth fwy sylweddol. Mae gan dalaith Cyrdistan arwynebedd o 28,817 km², sy'n cyftateb i tua wythfed ran yn unig o'r Cyrdistan Iranaidd ei hun. Fe'i lleolir yng ngorllewin Iran ac mae'n ffinio ar Irac i'r gorllewin, talaith Gorllewin Azerbaijan i'r gogledd, Zanjan i'r gogledd-ddwyrain a Kermanshah i'r de. Prifddinas y dalaith yw Sanandaj (Cyrdeg: Sinne). Fe'i rhennir yn siroedd a enwir ar ôl eu prif ddinasoedd neu drefi, sef Marivan, Baneh, Saqqez, Sarvabaad, Qorveh, Bijar, Kamyaran a Diwandarreh.

Daearyddiaeth a demograffeg
[golygu | golygu cod]Mae'n dalaith werdd gyda nifer o goedwigoedd a mynyddoedd. Y copaon uchaf yw mynyddoedd Charkhaln (3,330 m), Chehelcheshmeh (3,173 m), Hossein Bak (3,091 m) a Masjede Mirza (3,059 m). Y llyn mwyaf yw Llyn Zarivar.
Yn 1996 roedd gan y dalaith boblogaeth o 1,346,383 gyda 52.42% ohonynt yn byw mewn trefi a 47.58% yng nghefn gwlad. Cyrdiaid yw mwyafrif helaeth y boblogaeth. Maent yn siarad Cyrdeg Sorani. Enw hanesyddol yr ardal yw Ardalan.
Prif drefi a dinasoedd
[golygu | golygu cod]| Taleithiau Iran | |
|---|---|
| Alborz | Ardabil | Bushehr | Chaharmahal a Bakhtiari | De Khorasan | Dwyrain Azarbaijan | Fārs | Gīlān | Golestān | Gogledd Khorasan | Gorllewin Azarbaijan | Hamadān | Hormozgān | Īlām | Isfahan | Kermān | Kermanshah | Khūzestān | Kohgiluyeh a Boyer-Ahmad | Kordestan | Lorestān | Markazi | Māzandarān | Qazvin | Qom | Razavi Khorasan | Sistan a Baluchestan | Semnān | Tehran | Yazd | Zanjan | |
