Sistan a Baluchestan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lleoliad talaith Sistan a Baluchestan yn Iran

Un o 30 talaith Iran yw Sistan a Baluchestan ( (Perseg: سیستان و بلوچستان Ostān-e Sistān-u-Baluchestān). Mae'n gorwedd yn ne-orllewin Iran, am y ffin ag Affganistan a Pacistan. Zahedan yw'r brifddinas ac mae gan y dalaith boblogaeth o 2.1 miliwn o bobl.

Dyma'r dalaith ail fwyaf yn Iran, gydag arwynebedd o 181,600 km². Rhennir y dalaith yn adrannau a enwir ar ôl eu prif ddinasoedd, sef : Iran Shahr, Chabahar, Khash, Zabol, Zahedan, Saravan, a Nik Shahr.

Mae rhannau dwyreiniol y dalaith wedi dioddef o ymosodiadau gan y mudiad arfog Jundullah, sy'n ymladd dros greu "Balochistan Fawr" a hawliau Mwslemiaid Sunni yn Iran, dros y blynyddoedd diwethaf.


Taleithiau Iran Baner Iran
Alborz | Ardabil | Bushehr | Chaharmahal a Bakhtiari | Dwyrain Azarbaijan | Fārs | Gīlān | Golestān | Gogledd Khorasan | Gorllewin Azarbaijan | Hormozgān | Hamadān | Īlām | Isfahan | Kermanshah | Khūzestān | Kordestan | | Kohgiluyeh a Boyer-Ahmad | Kermān | Lorestān | Markazi | Māzandarān | Razavi Khorasan | De Khorasan | Sistan a Baluchestan | Tehran | Qazvin | Qom | Semnān | Yazd | Zanjan
Flag of Iran.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Iran. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.