Jundullah
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad arfog |
---|---|
Label brodorol | جند الله |
Dechrau/Sefydlu | 2003 |
Enw brodorol | جند الله |
Gwladwriaeth | Iran |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mudiad arfog Islamaidd Sunni sy'n defnyddio dulliau terfysgol ac sy'n gweithredu yn Balochistan yw Jundullah (Byddin Allah) (Perseg: جندالله). Mae'n cymryd rhan yn y gwrthryfel Balochi ym Mhacistan ac yn nhalaith Iranaidd Sistan a Baluchestan. Mae Jundallah yn hawlio dros 1,000 o wrthryfelwyr yn ei rengoedd ac yn honni ei fod wedi lladd rhai cannoedd o filwyr Iranaidd. Mae'n cael ei ystyried yn fudiad terfysgol gan lywodraethau Pacistan ac Iran.
Mae'r Jundullah yn dweud ei fod yn ymladd dros hawliau Mwslemiaid Sunni yn Iran a thros greu "Balochistan Fawr" neu Balochistan unedig a fyddai'n cynnwys rhannau o dde-ddwyrain Iran a de-orllewin Pacistan. Mae ymchwil gan newyddiadurwr o ABC News yn datgelu fod y mudiad yn derbyn arian a chefnogaeth gudd gan y CIA er mwyn ansefydlogi llywodraeth Islamaidd Iran; dywedir fod $400 miliwn wedi cael eu clustnodi ar gyfer hynny, yn gyfrinachol, ar orchymyn George W. Bush. Mae hefyd yn cael ei gysylltu ag Al Qaeda a Sawdi Arabia, ill ddau'n elyniaethus i lywodraeth Shiite Iran.[1]
Mae wedi bod yn gyfrifol am ymosodiadau terfysgol ar ddinasoedd yn ne-ddwyrain Iran.[2] Ar 29 Rhagfyr 2008 ceisiodd hunan-fomiwr ymosod ar orsaf heddlu yn ninas Saravan, talaith Sistan a Baluchestan, gan ladd 4 o bobl.[3]