Llyn Urmia
Gwedd
| Math | hypersaline lake, gwarchodfa bïosffer, llyn caeedig |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Urmia |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | West Azarbaijan Province, East Azarbaijan Province |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 5,200 km² |
| Uwch y môr | 1,270 metr |
| Cyfesurynnau | 37.662°N 45.405°E |
| Dalgylch | 50,000 cilometr sgwâr |
| Hyd | 140 cilometr |
![]() | |
| Statws treftadaeth | safle Ramsar |
| Manylion | |
Llyn dŵr hallt yng ngogledd-orllewin Iran ger y ffin â Twrci yw Llyn Urmia (Perseg: دریاچه ارومیه Daryacheh-ye Orumieh; Cyrdeg: زه ریاچه ی ورمێ, zeryacey Wirmê; Aserbaijaneg: ارومیه گولو , ارومیه گولی; enw hynafol: Llyn Matiene). Gorwedd y llyn rhang talaiethiau Iranaidd Dwyrain a Gorllewin Azarbaijan, i'r gorllewin o ran ddeheuol Môr Caspia. Dyma'r llyn mwyaf sy'n gorwedd yn gyfangwbl yn Iran a'r llyn dŵr hallt ail fwyaf yn y byd, gydag arwynebedd o 5,200 km² (2,000 milltir sgwar). Ei hyd eithaf yw tua 140 km (87 milltir) a'i led yw 55 km (34 milltir). Mae'n cyrraedd dyfnder o tua 16 m (52 troedfedd) yn unig, sy'n golygu ei fod yn fas iawn am ei faint.
Ceir 102 o ynysoedd yn y llyn, sy'n warchodfa biosffer ar restr UNESCO.
