Jabhat al-Nusra
Enghraifft o: | mudiad terfysgol |
---|---|
Idioleg | Islamiaeth, Salafi jihadism |
Daeth i ben | 28 Ionawr 2017 |
Rhan o | Mujahideen Shura Council, Al-Qaeda, Army of Conquest, Hay'at Tahrir al-Sham |
Dechrau/Sefydlu | 23 Ionawr 2012 |
Olynwyd gan | Hay'at Tahrir al-Sham |
Sylfaenydd | Ahmed al-Sharaa |
Olynydd | Hay'at Tahrir al-Sham |
Enw brodorol | جبهة النصرة |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grwp arfog yn Syria yw Jabhat al-Nusra neu Ffrynt al-Nusra (Arabeg: جبهة النصرة لأهل الشام Jabhat an-Nuṣrah li-Ahl ash-Shām). Mae'n un o sawl grwp arfog jihadaidd sydd wedi ymuno yn y gwrthryfel yn erbyn llywodraeth Syria. Mae'n grwp Sunni Salaffaidd sy'n deyrngar i al-Qaeda ac fe'i ystyrir yn fudiad terfysgol gan yr Unol Daleithiau. Daw llawer o ryfelwyr Jabhat al-Nusra o wledydd eraill ar draws y byd Islamaidd a thu hwnt. Ei bwriad yw sefydlu cyfraith sharia yn Syria a'i gwneud yn rhan o'r 'Califfaeth' Islamaidd arfaethedig.
Yn Ebrill 2013, cyhoeddodd arweinydd Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant mai Jabhat al-Nusra yw ei gynghreiriad yn Syria. Cyhuddir al-Nusra o fod yn gyfrifol am sawl ymosodiad terfysgol ac o ddienyddio milwyr Syriaidd a gwrthwynebwyr eraill.
Ym Mehefin 2013, cyhoeddodd al-Nusra jihad yn erbyn Cyrdiaid gogledd Syria. Ar 5 Awst 2013, llofruddiodd rhyfelwyr al-Nusra dros 450 o bentrefwyr mewn gwaed oer, yn cynnwys 120 o blant, ym mhentref Cyrdaidd Tal Abyad.