Llyn Van
Gwedd
| Math | llyn hallt, atyniad twristaidd, soda lake, tectonic lake |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Van, Talaith Bitlis |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 3,755 km² |
| Uwch y môr | 1,640 metr |
| Cyfesurynnau | 38.6333°N 42.8167°E |
| Dalgylch | 12,500 cilometr sgwâr |
| Hyd | 120 cilometr |
![]() | |
Llyn yn nwyrain Twrci yw Llyn Van (Twrceg: Van Gölü). Ef yw llyn mwyaf y wlad, gydag arwynebedd o 3755 km2. Mae'n 119 km ar draws yn y man lletaf, gyda dyfnder o 451 medr yn y man dyfnaf, a saif 1,640 medr uwch lefel y môr. Mae nifer o afonydd a nentydd bychain yn llifo i mewn iddo, ond nid oes yr un afon yn llifo allan. O ganlyniad, mae ei ddyfroedd yn hallt.
Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn, yn cynnwys Ynys Akhtamar, Çarpanak Adası, Adır Adası a Kuş Adası. Mae'r trefi ar ei lan yn cynnwys Van, Tatvan, Ahlat ac Erciş.

