Hil-laddiad Armenia
| Enghraifft o: | hil-laddiad, trais ethnig, mudo gorfodol |
|---|---|
| Dyddiad | 1915 |
| Lladdwyd | 1,200,000 ±500000 |
| Dechreuwyd | 24 Ebrill 1915 |
| Daeth i ben | 1923 |
| Lleoliad | yr Ymerodraeth Otomanaidd, Gorllewin Armenia, Chwe vilayet |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/011hr1 |
| Quora | Armenian-genocide |

Hil-laddiad Armenia neu'r Holocost Armenaidd (Armeneg:Հայոց Ցեղասպանութիւն) yw'r term a ddefnyddir yn gyffredinol am y digwyddiadau yn ystod ac yn fuan ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, pan laddwyd nifer fawr o Armeniaid gan awdurdodau yr Ymerodraeth Ottoman.
Dyddir dechrau'r ymgyrch hil-laddiad yn erbyn yr Armeniaid fel rheol o 24 Ebrill 1915, pan gymerodd yr awdurdodau Ottoman tua 250 o arweinwyr Armenaidd yng Nghaergystennin i'r ddalfa. O hynny ymlaen, lladdwyd Armeniaid ar raddfa fawr, a bu eraill farw ar ôl cael eu gorfodi i gerdded am gannoedd o filltiroedd i anialwch yr hyn sy'n awr yn Syria, heb fwyd na diod.
Credir yn gyffredinol i rhwng miliwn a miliwn a hanner o Armeniaid farw yn ystod y cyfnod yma. Bu gweithrediadau cyffelyb, ar raddfa lai, yn erbyn rhai grwpiau ethnig eraill, megis yr Assyriaid a'r Groegiaid.
Ystyrir gan lawer o ysgolheigion mai Hil-laddiad Armenia oedd yr enghraifft gyntaf o hil-laddiad systematig yn y cyfnod modern. Erys y pwnc yn un dadleuol; nid yw Twrci yn derbyn fod y term "hil-laddiad" yn ddisgrifiad cywir o'r digwyddiadau.
-
Cofeb i'r Hil-laddiad yng ngardd y Deml Heddwch, Caerdydd