Gwareiddiad Myceneaidd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Masg o hen ddinas Mycenae, a elwir (yn anghywir) yn "Fasg Agamemnon"

Y Gwareiddiad Myceneaidd yw'r enw a ddefnyddir am y gwareiddiad cyn-helenaidd yng Ngwlad Groeg yng nghyfnod diweddar Oes yr Efydd. Caiff ei enw o ddinas Mycenae yn y Peloponnesos.

Darganfuwyd y gwareiddiad hwn gan yr archaeolegydd Almaenig Heinrich Schliemann wrth gloddio ym Mycenae (1874) a Tiryns (1886). Credai Schliemann ei fod wedi darganfod y byd a ddisgrifiwyd gan Homeros yn yr Iliad. Mewn bedd ym Mycenae, cafodd hyd i fasg aur a alwodd yn "Fasg Agamemnon" ar ôl Agamemnon, brenin Mycenae yng nghyfnod Rhyfel Caerdroea; gwyddys erbyn hyn nad yw'r fasg yn cynrychioli Agamemnon ond yn perthyn i ddosbarth o fasgiau o wynebau'r meirw sy'n un o nodweddion gwareiddiad Mycenae.

Parhaodd y gwareiddiad Myceneaidd o tua 1550 CC hyd tua 1100 CC. Roedd yn olynydd i'r Gwareiddiad Minoaidd.

Prif safleoedd y Gwareiddiad Myceneaidd