Heinrich Schliemann
| Heinrich Schliemann | |
|---|---|
| Ganwyd | Johan Ludwig Heinrich Julius Schliemann 6 Ionawr 1822 Neubukow |
| Bu farw | 26 Rhagfyr 1890 Napoli |
| Man preswyl | Athen, St Petersburg, Ymerodraeth Rwsia, Iliou Melathron |
| Dinasyddiaeth | Grand Duchy of Mecklenburg-Schwerin, Ymerodraeth Rwsia, Unol Daleithiau America |
| Addysg | doethuriaeth |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | person busnes, hanesydd celf, archeolegydd, amlieithydd, masnachwr, teithiwr, entrepreneur, ysgrifennwr |
| Adnabyddus am | Ithaka, der Peloponnes und Troja, Trojanische Alterthümer, Troia und seine Ruinen, Troja, Mycenæ, Ilios: The City and Country of the Trojans |
| Tad | Ernst Schliemann |
| Mam | Luise Therese Sophie Schliemann |
| Priod | Sofia Schliemann |
| Plant | Agamemnon Schliemann, Andromache Schliemann, Nadeschda Schliemann |
| Perthnasau | Wladimir Andrussoff, Dimitrij Andrusov, Alexandros Melas, Adolph Schliemann |
| Gwobr/au | Dinesydd anrhydeddus Berlin, Medal Aur Frenhinol, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen |
| llofnod | |
Archaeolegydd amatur o'r Almaen a wnaeth ddarganfyddiadau syfrdanol ar safleoedd Caerdroea yn Nhwrci a Mycenae a Tiryns yng Ngwlad Groeg oedd Heinrich Schliemann (6 Ionawr 1822 - 26 Rhagfyr 1890).
Ganed Schliemann yn Neubukow, yn fab i weinidog Protestannaidd tlawd. Bu farw ei fam pan oedd yn naw oed. Datblygodd ddiddordeb yng weithiau Homeros yn ieuanc, ac wedi darllen yr Iliad, penderfynodd y byddai ryw rydd yn chwilio am Gaerdroea.
Bu raid iddo adael yr ysgol yn 14 oed, ac aeth yn brentis siopwr yn Fürstenberg. Yn 1844, cafodd waith gyda chwmni allforio a mewnforio, a dangosodd dalent anarferol. Gyrrwyd ef i St Petersburg yn 1846, lle dysgodd Rwseg a Groeg. Erbyn 1858, roedd yn ŵr cyfoethog, a defnyddiodd ei gyfoeth i dalu am ei ymchwiliadau ym maes archaeoleg.
Penderfynodd Schliemann mai Hissarlik yng ngogledd-orllewin Anatolia oedd safle Caerdroea, ac yn 1871 dechreuodd gloddio yno. Yn 1873, darganfu drysorau aur a alwidd yn "Drysor Priam", ar ôl Priam, brenin Caerdroea adeg Rhyfel Caerdroea. Cyhoeddodd Troja und seine Ruinen yn 1875.
Yr un flwyddyn, dechreuodd gloddio yn Orchomenus, ac yn 1876 yn Mycenae. Yno, cafodd hyd i nifer o feddau, gydag esgyrn a thrysorau aur, yn cynnwys masg aur a alwodd yn "Fasg Agamemnon" ar ôl Agamemnon, brenin Mycenae yng nghyfnod yr Iliad.
Bu farw yn Napoli yn 1890, ar ei ffordd yn ôl i Wlad Greog ar ôl llawdriniaeth yn yr Almaen. Aed a'i gorff i Athen i'w gladdu.
Gweithiau
[golygu | golygu cod]- La Chine et le Japon au temps présent (1867)
- Ithaka, der Peloponnesus und Troja (1868)
- Trojanische Altertümer (1874)
- Troja und seine Ruinen (1875)
- Mykena (1878)