Via Egnatia

Oddi ar Wicipedia
Via Egnatia
Mathffordd filwrol, ffordd Rufeinig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladTwrci Edit this on Wikidata

Roedd y Via Egnatia (Groeg: Εγνατία Οδός) yn ffordd Rufeinig yn y Balcanau a adeiladwyd gan y Rhufeiniaid yn yr 2ail ganrif CC. Roedd yn croesi taleithiau Rhufeinig Illyria, Macedonia, a Thrace, gan redeg trwy diriogaeth sydd heddiw'n rhan o Albania, Gweriniaeth Macedonia, Gwlad Groeg, a rhan Ewropeaidd Twrci.

Gan ddechrau yn ninas Dyrrachium (Durrës heddiw, Albania) ar lan Môr Adria, dilynai'r ffordd lwybr anodd ar hyd afon Genusus (Afon Skhumbini), dros fynyddoedd Candaviae ac ymlaen i'r ucheldiroedd o gwmpas Llyn Ohrid. Roedd yn troi i'r de wedyn, gan ddilyn sawl bwlch uchel i gyrraedd arfordir gogleddol Môr Aegea yn Thessalonica. O fan 'na rhedai ymlaen trwy Thrace i ddinas Byzantium (Istanbul heddiw). Ei hyd oedd tua 1,120 km (696 milltir fodern / 746 milltir Rufeinig).

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd y Via Egnatia i gysylltu'r gwladfeydd Rhufeinig rhwng Môr Adria a'r Bosphorus. Gorweddai pennau'r Via Egnatia a'r Via Appia, yn arwain i ddinas Rhufain ei hun, gyferbyn â'u gilydd ar Fôr Adria. Felly roedd y ffordd yn gysylltiad uniongyrchol rhwng gwladfeydd de'r Balcanau a Rhufain. Yn ogystal roedd yn gyswllt hanfodol i'r tiriogaethau Rhufeinig yn Asia Leiaf; cyn i ffordd fwy gogleddol gael ei hagor gan Augustus hon oedd prif gyswllt Rhufain ar dir â'i thiriogaethau yn nwyrain Môr y Canoldir.

Chwareodd ran bwysig yn hanes Rhufain. Teithiodd byddinoedd Iŵl Cesar a Pompey ar hyd y Via Egnatia yn y rhyfel cartref, ac yn ddiweddarach aeth Marc Antoni ac Octavian ar ôl Cassius a Brutus i'w hymladd ym Mrwydr Philippi. Atgyweirwyd y ffordd gan Trajan cyn ei ymgyrch yn OC 113 yn erbyn y Parthiaid. Ond erbyn y 5g roedd y ffordd mewn cyflwr gwael.

Cafodd ei hatgyweirio eto gan y Bysantiaid ond ni ddaeth yn ôl i'w hen ogoniant. Heddiw mae'r ffordd Εγνατία Οδός yn dilyn ei chwrs yng Ngwlad Groeg.

Prif drefi ar y Via Egnatia[golygu | golygu cod]

(wedi'u rhestri o'r gorllewin i'r dwyrain)

Enw hynafol Enw diweddar Gwlad bresennol
Dyrrachium, wedyn Epidamnos Durrës Albania
Claudiana Peqin Albania
Apollonia Ger pentref Pojani (7 km i'r gorllewin o Fier) Albania
Masio Scampa Elbasan Albania
Lychnidos Ohrid Gweriniaeth Macedonia
Heraclea Lyncestis 2 km of Bitola Gweriniaeth Macedonia
Florina Florina Gwlad Groeg
Edessa Edessa Gwlad Groeg
Pella Pella Gwlad Groeg
Thessalonica Thessaloniki Gwlad Groeg
Pydna Efallai Kitros, ger Pydna Gwlad Groeg
Amphipolis Ampifoli Gwlad Groeg
Philippi 14 km o Kavala Gwlad Groeg
Neapolis Kavala Gwlad Groeg
Traianoupolis Traianoupoli Gwlad Groeg
Kypsela İpsala Twrci
Aenus Enez Twrci
Aproi (neu Apros, Apris, Aprī,...) Pentref Kermeyan Twrci
Perinthus, wedyn Heraclea Marmaraereğlisi Twrci
Rhegion Küçük Çekmece, ger Istanbul Twrci
Adrianople (Adrianopolis) Edirne Twrci
Caenophrurium Çorlu Twrci
Melantias safle anhysbys Twrci
Byzantium, wedyn Caer Gystennin Istanbul Twrci

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Michele Fasolo: La via Egnatia I. Da Apollonia e Dyrrachium ad Herakleia Lynkestidos, Istituto Grafico Editoriale Romano, II ediz., Roma 2005

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

  • (Saesneg) Hanes Ffeil PDF