Brwydr Philippi
| Delwedd:Phil3.png, Phil2.png, Philippi 1st battle map.jpg, Philippi 2nd battle map.jpg | |
| Enghraifft o: | brwydr |
|---|---|
| Rhan o | Liberators' Civil War |
| Dechreuwyd | 3 Hydref 42 CC |
| Daeth i ben | 23 Hydref 42 CC |
| Lleoliad | Philippi |
![]() | |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0jzp9 |

Ymladdwyd Brwydr Philippi gerllaw dinas Philippi ym Macedonia yn 42 CC, rhwng dwy fyddin Rufeinig, un dan ddau o lofruddion Iŵl Cesar, Gaius Cassius Longinus a Marcus Junius Brutus, a'r llall dan Marcus Antonius a mab mabwysiedig Cesar, Gaius Octavianus (yn ddiweddarach yr ymerawdwr Augustus Cesar).
Mewn gwirionedd roedd dwy frwydr, gyda thair wythnos rhyngddynt. Ym Mrwydr Gyntaf Philippi ar 3 Hydref, llwyddodd Brutus i orchfygu byddin Octavianus, ond gorchfygwyd byddin Cassius gan Marcus Antonius. Gan gredu fod Brutus hefyd wedi colli'r dydd, lladdodd Cassius ei hun. Ymladdwyd Ail Frwydr Philippi ar 23 Hydref, a gorchfygwyd Brutus gan Antonius ac Octavianus. Lladdodd Brutus ei hun, ac wedi clywed y newyddion, lladdodd ei wraig Porcia ei hun hefyd.
