Sant Piran
Sant Piran | |
---|---|
Ganwyd | Unknown Cernyw |
Bu farw | Perranzabuloe |
Galwedigaeth | mynach |
Dydd gŵyl | 5 Mawrth |
Nawddsant Cernyw (Kernow) ar y cyd â Petroc yw Sant Piran. Mae'n nawddsant y mwyngoddwyr alcam. Dethlir ei ŵyl mabsant ar 5 Mawrth. Abad oedd Piran, o'r chweched ganrif, o dras Wyddelig (fel Ciarán - y 'P' Gymraeg yn troi yn 'C' Gwyddeleg).
Mae baner Piran yn groes wen ar gefndir du, gyda'r gwyn yn cynrychioli alcam/tun.
Mae llawysgrif o'r drydedd ganrif ar ddeg yn rhoi i ni 'fuchedd Piran', a ysgrifennwyd yng nghadeirlan Caerwysg. Ond mae hanes am ei fedd yn Saighir (Swydd Offaly, Iwerddon). Mae G. H. Doble yn credu ei fod yn Gymro oherwydd y capel a fu iddo yng Nghaerdydd.
Yn ôl yr hanes cafodd ei daflu i'r môr gan baganiaid yn Iwerddon ond daeth i'r lan yn Perranzabuloe, Cernyw. A hyn er gwaethaf y maen felin o gympas ei wddf! Y fo fu'n gyfrifol am adfer y grefft o smeltio tun yng Nghernyw am fod cerrig du ar ei aelwyd wedi ymboethi cymaint i ryddhau'r tun gwyn - fel yn ei faner.
Dosbarthwyd ei weddillion rhwng Caerwysg a Pherranzabuloe ond dim ond y blwch creiriau sy wedi oroesi ffyrnigrwydd y diwygwyr Protestaniaid.
Dethlir Gŵyl Piran drwy Gernyw a'r diaspora Cernywaidd. Mae miloedd yn tyrio at groes Piran ymhysg y tywynni ac adferwyd y perfformiad o'i ddrama firagl yn ddiweddar (yn y Gernyweg). Benthycwyd y cennin Pedr fel arwydd yn ddiweddar hefyd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Carter, Eileen. (2001). In the Shadow of St Piran.
- Doble, G. H. (1965). The Saints of Cornwall. Dean & Chapter of Truro.
- Ford, David Nash. (2001). Early British Kingoms: St. Piran, Abbot of Lanpiran. Nash Ford Publishing.
- Loth, J. (1930). 'Quelques victimes de l'hagio-onomastique en Cornwal: saint Peran, saint Keverne, saint Achebran', yn Mémoires de la Société d'Histoire et d'Archéologie de Bretagne.
- Plummer, Charles. (1922). Betha Naem nErenn.
- Tomlin, E.W.F. (1982). In Search of St Piran.
|