Piran (Slofenia)
![]() | |
![]() | |
Math | tref, bwrdeistref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 3,787 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Łańcut, Acqualagna, Aquileia, Bjugn Municipality, Castel Goffredo, Indianapolis, Keszthely, Ohrid, Valletta, Fenis, Vis, Mangalia ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 44.6 km² ![]() |
Uwch y môr | 7 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 45.527°N 13.569°E ![]() |
Cod post | 6330 ![]() |
SI-090 ![]() | |
![]() | |
Statws treftadaeth | monument of local significance ![]() |
Manylion | |
Bwrdeistref yn Slofenia yw Piran (/ piˈɾáːn /; yn Eidaleg: Pirano / piˈraːno /) Fe'i lleolir yn Istria yn rhanbarth Primorska ("arfordir") sy'n ffinio â'r Môr Adriatig. Mae hi'n swyddogol dwyieithog Slofenia ac Eidaleg. Piran yw enw'r dref arfordirol hynafol a hefyd y fwrdeistref o'r un enw.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r fwrdeistref yn ymestyn dros ardal o 44.6 km2, yn nodi pen de-orllewinol Slofenia. Mae Croatia yn ffinio â'r de, i'r dwyrain gan fwrdeistrefi Izola a Koper. I'r gogledd, mae'n wynebu'r Eidal, y tu hwnt i Gwlff Trieste. Mae'r dref wedi'i lleoli ar benrhyn cul tra bod cyrchfan glan môr Portorož 5 km i'r de, ar waelod Gwlff Piran.
Pentrefi
[golygu | golygu cod]Piran yw enw'r bwrdeistref hefyd ac mae'n cynnwys sawl pentref a threfnlan. Ceir enwau Slofeneg ac Eidaleg i'r pentrefi yma: Dragonja (Dragogna), Lucija (Lucia), Nova vas nad Dragonjo (Villanova), Padna (Padena), Parecag (Parezzago), Piran (Pirano), Portorož (Portorose), Seča (Sezza), Sečovlje (Sicciole), Strunjan (Strugnano) a Sveti Peter (San Pietro dell'Amata).
Hanes
[golygu | golygu cod][[File:Piri Reis - Map of the Coastline from Piran as Far as Izola - Walters W658178B - Full Page-edit.jpg|thumb|[[Map Piri Reis] o'r arfordir o Piran hyd at Izola]]

Daw enw'r ddinas o'r gair Groeg pyr sy'n golygu "tân". Yn wir, yng nghyfnod Gwlad Groeg, gosodwyd goleudy ar y penrhyn a chyhoeddodd y fynedfa i borthladd "Aegidia", y Koper cyfredol. Yna daeth y Rhufeiniaid o hyd i ddinas o'r enw Piranum ar y penrhyn ar ôl eu buddugoliaeth dros y llwythau cyfagos. Syrthiodd y dref fach dan adain Gweriniaeth Fenis o'r 13g. Parhaoedd llywodraethiant Fenis am bron i 5 canrif, gyda Piran yn gynghreiriad ffyddlon i'r ddinas. Yn 1692 ganwyd Giuseppe Tartini yn Pirano. Enwyd prif sgwâr y dref er anrhydedd iddo sawl canrif yn ddiweddarach a chodir cerflun ar gyfer daucanmlwyddiant ei eni.
Yna pasiodd Piran/Pirano dan reolaeth Ymerodraeth Awstria, nes iddi gael ei chysylltu â'r Eidal ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf fel rhan o Cytundeb Saint-Germain. Cymerwyd y cyfan fwy neu lai o de-ddwyrain tiriogaeth y Slofeniaid gan yr Eidal wedi'r Rhyfel Mawr gan ddioddef polisiau gwrth iaith a diwylliant Slofeneg gan lywodraeth ffasgaidd Mussolini. Tu diwedd yr Ail Ryfel Byd cipiodd fyddin Partizan comiwnyddol Tito diroed Slofenaidd gan gipio Piran ac yna Trieste ar 1 Mai 1945. Cafwyd cadoediad rhwng y Comiwnyddion Iwgoslafaidd â'r Cynghreiriaid gan rannu'r tiriogaeth o gylch Bae Trieste yn ddau barth fel rhan o Diriogaeth Rydd Trieste. Canfu Piran yn rhan o Barth B ac o dan weinyddiaeth Iwgoslafia. Daeth TRT i ben gyda Gytundeb Llundain yn 1954 pan ddaeth Piran yn rhan o Weriniaeth Iwgoslafia Slofenia ym 1954. Gyda chwymp Iwgoslafia yn 1991, daeth Piran yn rhan o weriniaeth annibynnol Slofenia.
Piran Heddiw
[golygu | golygu cod]Mae bae Piran, un o'r prif fynedfeydd i'r môr yn Slofenia heddiw, yng nghanol gwrthdaro morwrol â Croatia. Oherwydd anghydfod ynghylch y ffiniau morwrol, gwrthwynebodd Slofenia esgyniad Croatia i'r Undeb Ewropeaidd. Yn 2010, dilyswyd cytundeb rhwng y ddwy wlad, yna’i gadarnhau ar 5 Mehefin yn dilyn trwy refferendwm yn Slofenia, gyda 51.48% ie. Mae'r bleidlais hon, a ddaw ar ôl pleidlais Senedd Croateg, yn dileu yn bendant rwystr pwysig i esgyniad cyflym Croatia i'r Undeb Ewropeaidd, y mae'r wlad hon yn gobeithio amdano ar gyfer 2012.[1] Ar 24 Hydref 2010, daw Piran / Pirano yn fwrdeistref gyntaf cyn-Iwgoslafia i ethol maer du, Peter Bossman.[2]
Piran yw sedd Prifysgol Ewro-Canoldir Slofenia (EMUNI - Euro-Mediterranean University of Slovenia), a sefydlwyd yn 2008 fel un o brosiectau diwylliannol Proses Barcelona: Undeb Môr y Canoldir. Mae Orielau Piran Coastal, sefydliad cyhoeddus sy'n cwmpasu grŵp o chwe oriel gelf gyfoes gyhoeddus, wedi'i leoli yn Piran.[3]
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Rhwng 1999 a 2008, arhosodd poblogaeth tref Piran yn agos at 17,000 o drigolion.[4].
Yn ôl cyfrifiad iaith Awstria 1910, roedd 7,379 o drigolion yn y dref ei hun (95.97%) yn Eidalwyr a 0.09% yn Slofeniaid. Ym 1945, roedd gan y dref ei hun 5,035 o drigolion, 91.32% Eidaleg ac 8.54% o siaradwyr Slofenaidd. Ym 1956 roedd 3.574 o drigolion, 67.6% Slofeneg a 15.5% Eidaleg. Dylid cofio mae'r arfer am ganrifoedd oedd mai Eidalwyr oedd preswylwyr canol trefi neu hen drefi gaerog megis Piran a Koper, tra fyddai'r cefn gwlad o fewn km neu ddwy o'r dref yn gadarn Slofeneg neu Croatieg eu hiaith. Ar ôl 1947, newidiodd y cyfansoddiad ethnig yn radical oherwydd alltudiad yr Eidalwyr i'r Eidal a'u disodli gan ymsefydlwyr Slofenaidd, o ardaloedd eraill yn Istria Slofenia ac o rannau mewnol o'r wlad.
Twristiaeth
[golygu | golygu cod]Dinas Piran a'i phensaernïaeth ganoloesol yw un o'r prif gyrchfannau i dwristiaid ar arfordir Slofenia. Mae Portorož sy'n rhan o fwrdeistref Piran, yw gyrchfan glan môr bwysicaf yn y wlad. Maes Awyr Portorož, ger ffin Croatia, yw trydydd maes awyr rhyngwladol y wlad ac mae'n gwasanaethu nid yn unig arfordir Slofenia ond hefyd y dinasoedd cyfagos yn yr Eidal a Chroatia.
Amgueddfeydd
[golygu | golygu cod]Ger harbwr yr hen dref mae tair amgueddfa sy'n gysylltiedig â'r môr. Mae'r Acwariwm yn Kidriĉevo nabrežje 4 yn dangos ffawna morol yr Adriatig. Mae'r Pomorski muzej (amgueddfa forol) yn Cankarjevo nabrežje 3 yn cyflwyno defnydd economaidd y môr (pysgota, morio Slofenia, echdynnu halen). Mae pod Muzej vodnihdejavnosti (amgueddfa danddwr) yn Župančičeva 24 yn delio â deifio ac yn dangos, er enghraifft, llongddrylliadau.
Pobl enwog
[golygu | golygu cod]- Giuseppe Tartini, feiolinydd a chyfansoddwr Eidaleg
- Cesare Dell’Acqua (1821-1905), paentiwr Eidaleg
- Domingo Brescia (1866-1939), cyfansoddwr ac athro cerdd Eidalaidd
- Alenka Dovžan (* 1976), rasiwr sgïo Slofeneg
Gefeillio
[golygu | golygu cod]Mae Piran yn gefeilldref â sawl thref dramor unai, yn ystod ei chyfnod yn rhan o Iwgoslafia neu fel rhan o Slofenia annibynnol:[5]
Vis (ynys), Croatia (ers 1973)
Aquileia, Yr Eidal (ers1977)
- Nodyn:Country data FYRM Ohrid, Gogledd Macedonia (ers 1981)
Bjugn, Norwy (ers 1985)
Castel Goffredo, Italy (ers 1993)
Indianapolis, Indiana, United States (ers 2001)
Valletta, Malta (ers 2002)
Acqualagna, Yr Eidal (ers 2003)
Mangalia, Yr Eidal (ers 2012)
Porano, Yr Eidal (ers 2012)
Karsiyaka, Twrci (ers 2013)
Sittersdorf, Awstria (ers 2017)
Tivat, Montenegro (ers 2018)
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Cardyn post o harbwr Pirano - noder y sillafiad Eidalaidd. Cyn RhB2.
-
Tartinjev trg o'r awyr, Mai 2009
-
Eglwys San Siôr (Slofeneg: župnijska cerkev sv. Jurija v Piranu, Eidaleg: San Giorgio)
-
Golygfa o'r arfordir
-
Tartinjev trg
-
Golygfa o doeau Piran, o eglwys blwyf Saint Georges. Awst2018
-
Tŷ Fenisaidd ar Tartinjev trg (noder lliw coch tywyll nodweddiadol adeiladau Fenis)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Différend frontalier: "oui" slovène à l'accord Slovénie-Croatie". Agence France Presse. 6 Mehefin 2010. Cyrchwyd 9 Mehefin 2010.[dolen farw]
- ↑ AFP, "Obama de Piran" : un premier maire noir pour la Slovénie[dolen farw], par Bojan Kavcic
- ↑ "Obalne galerije - Coastal Galleries". Culture.si. Cyrchwyd 5 January 2012.
- ↑ (Saesneg) "Démographie de Piran". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-17. Cyrchwyd 17 Chwefror 2009.
- ↑ "Twin towns & municipalities, cooperation". Municipality of Piran. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-23. Cyrchwyd 7 January 2019.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan bwrdeistref Piran Archifwyd 2018-08-08 yn y Peiriant Wayback