Croatia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Croasia)
Jump to navigation Jump to search
Croatia
Coat of arms of Croatia.svg
Republika Hrvatska
Flag of Croatia.svg
Math gwladwriaeth sofran, gwladwriaeth unedol, Gwlad Edit this on Wikidata
Prifddinas Zagreb Edit this on Wikidata
Poblogaeth 4,284,889 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd 1991 Edit this on Wikidata
Anthem Lijepa naša domovino Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Andrej Plenković Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Croateg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd 56,594 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Gerllaw Môr Adria Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Slofenia, Hwngari, Serbia, Bosnia-Hertsegofina, Montenegro, Liberland Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 45.25°N 15.46667°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol Llywodraeth Croatia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethol Senedd Croatia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Croatia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Kolinda Grabar-Kitarović Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Croatia Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Andrej Plenković Edit this on Wikidata
LocationCroatia.svg
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP) $54,849 million Edit this on Wikidata
CMC y pen $11,536 ±0.01 Edit this on Wikidata
Arian Croatian kuna Edit this on Wikidata
Chwyddiant 0.2 ±0.1 % Edit this on Wikidata
15,423,622,233 ±1 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Canran y diwaith 17 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant 1.46 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol 0.67, 0.694, 0.749, 0.782, 0.807, 0.814, 0.817, 0.817, 0.818 Edit this on Wikidata
Gwefan www.vlada.hr Golygu ar Wicidata

Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop ar lan y Môr Canoldir yw Gweriniaeth Croatia neu Croatia (Croateg: "Cymorth – Sain" Republika Hrvatska ). Mae'n gorwedd yn y Balcanau gan ffinio â Slofenia, Hwngari, Serbia a Bosnia-Hertsegofina. Y brifddinas yw Zagreb.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Daearyddiaeth Croatia

Mae Croatia wedi ei lleoli yng Nghanolbarth a De-ddwyrain Ewrop, yn ffinio gyda Hwngari i'r gogledd-ddwyrain, Serbia i'r dwyrain, Bosnia a Herzegovina i'r de-ddwyrain, Montenegro i'r de-ddwyrain, y Mor Adriatig i'r de-orllewin a Slofenia i'r gogledd-orllewin. Mae'n gorwedd yn bennaf rhwng lledredau 42° a 47° G a hydredau 13° a 20° Dn. Mae rhan o'r diriogaeth sydd bellaf i'r de sy'n amgylchynnu Dubrovnik yn allglofan ymarferol sy'n gysylltiedig â'r cyfandir gan stribyn byr o arfordir sy'n perthyn i Bosnia a Herzegovina o amgylch Neum.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Croatia

Credir fod hanes Croatia yn cychwyn gyda'r Illyriaid ac mai nhw oedd trigolion gwreiddiol y tir cyn i'r Ymerodraeth Rufeinig goresgyn a gwladychu Croatia. Ymsefydlodd llwyth Celtaidd y Boii yn Pannonia cyn diwedd y mileniwn cyntaf cyn Crist. Sefydlwyd talaith Illyria gan y Rhufeinwyr yn y ganrif gyntaf cyn Crist. Mae prif ddinasoedd yr arfordir fel Pula, Split a Dubrovnic i gyd yn hen iawn. Dalmatia a Pannonia oedd yr enw ar y ddwy ran o'r wlad. Y dystiolaeth amlycaf am eu presenoldeb yw Palas Diocletian yn Split (300 OC) a'r amffitheatr fawr yn Pula.

Cyrhaeddodd y Croatiaid (llwyth Slafaidd) yn heddychol fel milwyr hur i'r Rhufeinwyr o'r 7c ymlaen mewn gwlad o ddiboblogwyd gan y "barbariaid". Erbyn 820 roedd Dugaeth Croatia yn unedig dan Vladislav; parhaodd rhai o drefi'r arfordir i siarad Lladin ac wedyn Eidaleg am ganrifoedd. Y brenin cyntaf oedd Tomislav, a goronwyd yn 925.

Roedd y wlad yn annibynnol tan 1089 pan ddaeth yn rhan o deyrnas Hwngari - ond gyda senedd (Sabor) annibynnol. Er gwaethaf ymyrraeth Fenis, y Mongoliaid a'r Croesgadwyr, parhaodd dominyddiaeth yr Hwngariaid tan 1526. Erbyn brwydr Mohacs yn 1526 roedd y rhan fwyaf o'r wlad yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid.

Ymateb syml senedd y Croatiaid oedd derbyn Archddug Ferdinand o Awstria fel brenin yn 1527, a wthiodd yr Otomaniaid yn ôl yn ystod y ganrif ganlynol. Rhoddodd yr Habsbwrgiaid Croatia yn hanner "Hwngaraidd" eu hymerodraeth, a hynny erbyn 1699.

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ffurfwyd Iwgoslafia yn 1918, a bu Croatia dan awdurdod Beograd am y tro cyntaf. Rhoes yr Ail Ryfel Byd rym i'r Ustase, (mudiad ffasgaidd lleol) o dan y Natsïaid, ac wedi'r rhyfel cafwyd rheolaeth dan Tito a'r Comiwnyddion am 45 mlynedd.

Yn 1991, ar ôl naw ganrif dan reolaeth ei chymdogion, daeth Croatia yn wlad annibynnol eto. Croesawyd y genedl newydd gan bedair blynedd o ryfel, cyflafanau, a dros chwarter miliwn o ffoaduriaid.

Mae Croatia erbyn heddiw yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop, NATO, Sefydliad Masnach y Byd (WTO), a'r Undeb Ewropeaidd.

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Diwylliant Croatia

Oherwydd ei lleoliad daearyddol, mae Croatia yn cynrychioli cyfuniad o bedwar diwylliant gwahanol. Mae wedi bod yn groesffordd i ddylanwadau diwylliannol y gorllewin a'r dwyrain ers i'r Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol a'r Ymerodraeth Bysantaidd ymrannu - yn ogystal a diwylliannau Mitteleuropa a Mor y Canoldir.[240] Y mudiad Ilyraidd oedd y cyfnod mwyaf arwyddocaol yn hanes diwylliant y genedl, oherwydd i'r 19eg ganrif brofi'r allweddol i ryddhau'r iaith Croataidd a gweld datblygiadau nas gwelwyd eu math o'r blaen yn holl feysydd diwylliant a chelf.[43]

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Economi Croatia

Mae Croatia yn cael ei hystyried gan y Cenhedledd Unedig fel economi incwm uchel. Mae data'r Gronfa Ariannol Ryngwladol yn dangos bod Cynnyrch Mewnwladol (GDP) enwol Croatia yn $53.5 billion, neu $12,863 per capita yn 2017, tra bod paredd grym pwrcasu y Cynnyrch Mewnwladol yn $100 billion, neu $24,095 per capita. Yn ôl data Eurostat, roedd PPS GDP Croatia yn 61% o'r cyfartaledd Ewropeaidd yn 2012.

Roedd twf real y Cynnyrch Mewnwladol yn 2007 yn 6.0 y cant. 5,895 HRK y mis oedd cyfartaledd cyflog gweithiwr yng Nghroatia yn Ionawr 2017, a chyfartaledd cyflog crynswth oedd 7,911 HRK y mis.[155] Yn Chwefror 2017, roedd cyfradd ddiweithdra gofrestredig Croatia yn 15.3 y cant.


Flag of Croatia.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Croatia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato