Bwrdeistref

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Caernarfon, un o fwrdeistrefi enwocaf Cymru, map o 1610 yn debyg i'r hen fwrdeistref ganoloesol

Math ar awdurdod lleol yw bwrdeistref. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru mae bwrdeistref (sillafir hefyd fel bwrdeisdref) yn golygu; tref sy'n meddu corfforaeth a breiniau wedi eu hawdurdodi gan siarter frenhinol; tref a chanddi hawl i ddanfon cynrychiolydd i'r senedd. Mae'n gytras â'r gair Saesneg borough a defnyddir y gair bwrgaisdref ar adegau sy'n agosach i'r Saesneg wreiddiol.

Bellach, mae'r term 'bwrdeistref' yn meddu ar sawl diffiniad sy'n gallu amrywio'n gynnil o wlad i wlad ac oes i oes.

Etymoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofnodir y cyfeiriad ysgrifenedig gyntaf i'r term yn y 13g/14g fel "bordeisseit ydinas" ([1] tab 'Argraffaiad Cyntaf') ac yn 14g yn y dywediad, "bwrdeisdref baradwysdref".[2] Mae 'bwrdais' yn fenthyciad o Saesneg Canol, burgeis/borgeis; "burgess".[3]

Daw'r gair Saesneg, 'borough' o'r gwraidd Proto-Germanaidd, *burgz, yn golygu "caer": cymharer â bury, burgh a brough (Lloegr), burgh (Yr Alban), Burg (Almaen), borg (Sgandinafia), burcht, burg (Iseldireg), boarch (Gorllewin Ffrisieg), a benthycwyd y gair i iethoedd Indo-Ewropeaidd eraill megis; borgo (Eidaleg), bourg (Ffrangeg), burgo (Sbaeneg a Phortiwgaleg), burg (Rwmaneg), purg (Kajkavian), durgo (দুর্গ, Bengali), durg (दर्ग, Hindi) ac arg (ارگ, Persieg), buzi(堡子, Tsieinieg).

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Arwyddlun Bwrdeistref Casnewydd, Gwent
Bwrdeistrefi Llundain,1963
Brixton, un o fwrdeistrefi mwyaf amlethnig Lluundain

Sefydlwyd nifer o fwrdeistrefi Cymru yn dilyn y concwest Saesneg gan roddi iddynt hawliau masnachu a chynnal ffeiriau. Yn eu mysg oedd Aberystwyth a dderbyniodd ei Siarter Frenhinol fel bwrdeistef gan Edward I, brenin Lloegr yn 1277.[4]

Gwelwyd diwygio llywodraeth leol a chryfhau grymoedd y bwrdeistrefi yn Neddf Diwygio'r Senedd 1832. Yn Neddf Llywodraeth Leol 1888 cryfhawyd bwrdeistrefi er mwyn rhoi gwell cynrychiolaeth a gwasanaeth i'r boblogaeth oedd yn tyfu a newid llawer yn ystod y ganrif flaenorol.[5]

Ers Deddf Llywodraeth Lleol 1974 ni ddefnyddir neu ardderlir y term na'r uned bwrdeistref mor gyffredin yng Nghymru ar gyfer tref unigol ond ceir bellach 7 Bwrdeistref sirol. Ceir hefyd bwrdeistrefi hanesyddol yn Lloegr a rhai cyfoes a gweinyddir Llundain Fwyaf drwy fwrdeistrefi lleol sy'n rhan o Gynulliad Llundain.

Tramor[golygu | golygu cod y dudalen]

Defnyddir y gair bwrdeistref yn y Gymraeg i gyfeirio at a disgrifio yr hyn a elwir yn 'municipalities' mewn gwledydd eraill.[6] Efallai mai yn Efrog Newydd y gwelir y bwrdeistrefi tramor enwocaf fel y Bronx. Bydd arrondissements municipaux dinas Paris yn rhannu rôl tebyg i'r bwrdeistrefi yn Llundain.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]