Arrondissements Paris
| Arrondissements of Paris | |
|---|---|
| Country | |
| Region | Île-de-France |
| Department | Paris |
| Cantons | 20 |
| Communes | 1 |
| Préfecture | Paris |
| Arwynebedd¹ | |
| • Cyfanswm | 105 km2 (41 mi sg) |
| Poblogaeth (2009) | |
| • Cyfanswm | 2,234,105 |
| • Dwysedd | 21,000/km2 (55,000/mi sg) |
| ¹ French Land Registry data, which exclude lakes, ponds, and glaciers larger than 1 km², as well as the estuaries of rivers. | |

Rhennir dinas Paris yn ugain arrondissements municipaux ("ardaloedd dinesig", wedi'u cyfieithu'n fras), a elwir yn gyffredin arrondissement. Ni ddylid eu cymysgu â'r rhanbarthau adrannol y mae pob un o'r 100 o adrannau wedi'u rhannu iddynt. Mae rhif pob ardal wedi'i nodi gan y ddau ddigid olaf yng nghodau post Paris.[1][2] Ystyr arrondissement yn fras yw "talgrynnu". Ceir arrondissements eraill yn Ffrainc.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Trefnir yr ugain ardal yn droell glocwedd, gan ddechrau gyda Arrondissement I, yn nghanol y ddinas, ar lan ogleddol yr Afon Seine. Ymddengys fod yna resymau gwleidyddol a gwyddonol pam y penderfynodd y Barwn Haussmann ar y morffoleg ryfedd hon o Ardaloedd Paris. Mae'r llythrennau wrth ymyl pob ardal yn nodi a yw wedi'i leoli ar lan chwith (L) neu dde (D) afon Seine.[2]
Rhennir pob arrondissement yn weinyddol yn bedwar chwarter neu gymdogaethau (quartier). Yn y modd hwn, mae gan Paris 80 chwarter gweinyddol, ac ym mhob un ohonynt mae gorsaf heddlu.
Llywodraeth a gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]
Yn unigryw ymhlith dinasoedd Ffrainc, mae Paris yn fwrdeistref (commune) ac yn "sir" (département). O dan Gyfraith PLM (Loi PLM) 1982, a ailddiffiniodd lywodraethu Paris, Lyon, a Marseille (a dyna pam yr acronym PLM), mae yna gyngor dinas o'r enw "Cyngor Paris" ac 20 o gynghorau arrondissement ym Mharis. Mae Cyfraith PLM hefyd yn gosod terfynau i uchelfreintiau Maer Paris, sy'n gorfod delio â'r pwerau a roddwyd i swyddog yr heddlu ar faterion diogelwch.
Mae'r 20 cyngor arrondissement (conseils d'arrondissement) yn debyg o ran gweithredu i gyngor dinesig (conseil municipal) ond gydag ychydig iawn o bwerau.[3] Etholir ei haelodau mewn etholiadau dinesig yn yr un modd ag mewn bwrdeistrefi gyda mwy na 3,500 o drigolion. Mae pob cyngor arrondissement yn cynnwys 2/3 aelod a etholwyd yn benodol fel cynghorwyr arrondissement, tra bod aelodau Cyngor Paris sy'n cynrychioli'r arrondissement hefyd yn eistedd ex officio ar eu cyngor arrondissement lleol. Er enghraifft, mae gan gyngor y XIXeg arrondissement 42 aelod, y mae 28 ohonynt yn conseillers d'arrondissement sydd ond yn eistedd ar y cyngor arrondissement, tra bod 14 yn conseillers de Paris sydd hefyd yn eistedd ar Gyngor y Ddinas. Yn ei gyfarfod cyntaf ar ôl yr etholiadau, mae pob cyngor arrondissement yn ethol ei faer.[3]
Hanes
[golygu | golygu cod]
Cyn 1860
[golygu | golygu cod]Ar 11 Hydref 1795, isrannwyd Paris yn ddeuddeg arrondissement. Cawsant eu rhifo o'r gorllewin i'r dwyrain, gyda rhif un i naw ar y Lan Ddeheuol y Seine a deg i ddeuddeg ar y Lan Chwith. Rhannwyd pob ardal yn bedwar chwarter (cymdogaethau), a oedd yn cyfateb i'r pedwar deg wyth o ardaloedd gwreiddiol a sefydlwyd yn 1790.[1]
Wedi 1860
[golygu | golygu cod]Ar 1 Ionawr 1860, atodwyd tiriogaethau'r cymunedau cyfagos Grenelle, Vaugirard, Bercy, Charonne, Belleville, La Villette, La Chapelle, Montmartre, Les Batignolles, Passy ac Auteuil, gan ehangu terfynau'r ddinas. Ailddosbarthwyd y deuddeg rhanbarth ar yr un pryd ag yr atodwyd y diriogaeth honno a chyda hwy crëwyd yr ugain rhanbarth presennol.[1]
Wrth gyfeirio at gofnodion hanesyddol (lle mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng yr hen system a'r system newydd), dynodir yr hen ardaloedd gan y term ancienne: 2ème ancienne neu 8ème ancienne.
Wedi 2020
[golygu | golygu cod]Ar ôl yr 2il rownd o etholiadau dinesig ym Mharis, unwyd Rhanbarthau 1,2,3 a 4 a chrëwyd CANOLFAN PARIS.
Arrondissements
[golygu | golygu cod]| Arfbais | Arrondissement | Enw | Maint (km2) | Poblogaeth (2017 estimate) |
Dwysedd (2017) (inhabitants per km2) |
Pegwn poblogaeth | Maer (2020–2026) |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| 1af (Ier) Rhan weinyddol o Paris Centre | Louvre | 5.59 km2 (2.16 mi sgw) | 100,196 | 17,924 | cyn 1861 | Ariel Weil | |
| 2il (IIe) Rhan weinyddol o Paris Centre | Bourse | cyn 1861 | |||||
| 3ydd (IIIe) Rhan weinyddol o Paris Centre | Temple | cyn 1861 | |||||
| 4ydd (IVe) Rhan weinyddol o Paris Centre | Hôtel-de-Ville | cyn 1861 | |||||
| 5ed (Ve) | Panthéon | 2.541 km2 (0.981 mi sgw) | 59,631 | 23,477 | 1911 | Florence Berthout | |
| 6ed (VIe) | Luxembourg | 2.154 km2 (0.832 mi sgw) | 41,976 | 19,524 | 1911 | Jean-Pierre Lecoq | |
| 7fed (VIIe) | Palais-Bourbon | 4.088 km2 (1.578 mi sgw) | 52,193 | 12,761 | 1926 | Rachida Dati | |
| 8fed (VIIIe) | Élysée | 3.881 km2 (1.498 mi sgw) | 37,368 | 9,631 | 1891 | Jeanne d'Hauteserre | |
| 9fed (IXe) | Opéra | 2.179 km2 (0.841 mi sgw) | 60,071 | 27,556 | 1901 | Delphine Bürkli | |
| 10fed (Xe) | Entrepôt | 2.892 km2 (1.117 mi sgw) | 90,836 | 31,431 | 1881 | Alexandra Cordebard | |
| 11eg (XIe) | Popincourt | 3.666 km2 (1.415 mi sgw) | 147,470 | 40,183 | 1911 | François Vauglin | |
| 12fed (XIIe) | Reuilly | 16.324 km2 (6.303 mi sgw)¹ 6.377 km2 (2.462 mi sgw)² | 141,287 | 8,657¹ 21,729² | 1962 | Emmanuelle Pierre-Marie | |
| 13eg (XIIIe) | Gobelins | 7.146 km2 (2.759 mi sgw) | 183,399 | 25,650 | 20055 | Jérôme Coumet | |
| 14eg (XIVe) | Observatoire | 5.621 km2 (2.170 mi sgw) | 136,941 | 24,280 | 1954 | Carine Petit | |
| 15fed (XVe) | Vaugirard | 8.502 km2 (3.283 mi sgw) | 235,178 | 27,733 | 1962 | Philippe Goujon | |
| 16eg (XVIe) | Passy | 16.305 km2 (6.295 mi sgw)³ 7.846 km2 (3.029 mi sgw)4 | 149,500 | 9,169³ 19,0544 | 1962 | Francis Szpiner | |
| 17eg (XVIIe) | Batignolles-Monceau | 5.669 km2 (2.189 mi sgw) | 168,737 | 29,760 | 1954 | Geoffroy Boulard | |
| 18fed (XVIIIe) | Butte-Montmartre | 6.005 km2 (2.319 mi sgw) | 196,131 | 32,634 | 1931 | Éric Lejoindre | |
| 19eg (XIXe) | Buttes-Chaumont | 6.786 km2 (2.620 mi sgw) | 188,066 | 27,697 | 20055 | François Dagnaud | |
| 20fed (XXe) | Ménilmontant | 5.984 km2 (2.310 mi sgw) | 191,800 | 32,052 | 1936 | Éric Pliez |
Nodiadau
1. Gyda Bois de Vincennes
2. Heb Bois de Vincennes
3. Gyda Bois de Boulogne
4. Heb Bois de Boulogne
5. 2005 yw blwyddyn yr amcangyfrif swyddogol diweddaraf; mae'n bosibl bod poblogaeth yr arrondissements hyn yn dal i dyfu.
Logos
[golygu | golygu cod]- Paris Centre (Arrondissement I, II, III, IV)
- V Arrondissement
- VI Arrondissement
- VII Arrondissement
- VIII Arrondissement
- IX Arrondissement
- X Arrondissement
- XI Arrondissement
- XII Arrondissement
- XIII Arrondissement
- XIV Arrondissement
- XV Arrondissement
- XVI Arrondissement
- XVII Arrondissement
- XVIII Arrondissement
- XIX Arrondissement
- XX Arrondissement
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Départements Ffrainc - sy'n cyfateb, yn fras, i Siroedd Cymru
- Cymunedau Ffrainc - "Communes" sy'n cyfateb, yn fras, i Cyngor Cymuned yng Nghymru
- Arrondissements Ffrainc
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 "Histoire de l'arrondissement" (yn Ffrangeg). Mairie de Paris. 7 Hydref 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-06. Cyrchwyd 21 Chwefror 2024.
- 1 2 "Monographies d'arrondissements" (yn Ffrangeg). Mairie de Paris. 12 Mawrth 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-21. Cyrchwyd 9 Awst 2014.
- 1 2 "Map of Paris arrondissements". Paris Digest. 2018. Cyrchwyd 28 Awst 2018.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Paris’ Arrondissements gwybodaeth yn Saesneg
- The Paris Arrondissements – A Guide To The Neighborhoods cyflwyniad i'r gwahanol arrondissements
