Centre-Val de Loire
| Centre-Val de Loire | |||
|---|---|---|---|
| Rhanbarth o Ffrainc | |||
| |||
|
| |||
| Country |
| ||
| Rhaglawiaeth | Orléans | ||
| Rhanbarthau | |||
| Llywodraeth | |||
| • Llywydd | François Bonneau (Y Blaid Sosialaidd) | ||
| Arwynebedd | |||
| • Cyfanswm | 39,151 km2 (15,116 mi sg) | ||
| Poblogaeth (2008-01-01) | |||
| • Cyfanswm | 2,538,000 | ||
| • Dwysedd | 65/km2 (170/mi sg) | ||
| Parth amser | CET (UTC+1) | ||
| • Summer (DST) | CEST (UTC+2) | ||
| ISO 3166 | FR-F | ||
| GDP (2012)[1] | Safle: 9th | ||
| Total | €67.1 biliwn (US$86.3 bn) | ||
| Per capita | €26,126 (US$33,603) | ||
| NUTS | FR2 | ||
Un o ranbarthau Ffrainc sy'n gorwedd yng nghanolbarth y wlad yw Centre-Val de Loire. Mae'n ffinio â rhanbarthau Limousin, Poitou-Charentes, Pays de la Loire, Basse-Normandie, Haute-Normandie, rhanbarth Paris, a Franche-Comté. Mae ganddo boblogaeth o tua 2.5 miliwn o bobl. Orléans yw'r brifddinas weinyddol, er mai Tours yw'r ddinas fwyaf o ran poblogaeth.
Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Fel llawer o enwau gwneud (neu fodern) yn Ffrainc, fe'i crewyd gan y Llywodraeth drwy ddod a nifer o ranbarthau llai at ei gilydd. Dewisiwyd yr enw "Centre" oherwydd fod yr ardal yng nghalon ieithyddol yr hen wlad. Cynigiwyd ei newid gan ei fod yn enw mor ddiddychymyg, ac nad oedd yn union yn y canol, a chynigiwyd: Cœur de Loire (Calon y Loire). Ar 17 Ionawr 2015, yn sgil rhai newidiadau i'r rhanbarthau Ffrengig, newidiwyd yr enw i "Centre-Val de Loire".[2] Dewisiwyd yr enw gan fod yr enw Val de Loire yn creu delweddau positif o ddyffryn ffrwythlon a'i ffordd araf o fyw ynghyd a'i dywyd mwyn ac, wrth gwrs, gan ei fod yn atyniad twristaidd.
Départements[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhennir Centre yn chwech département:
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ INSEE. "Produits intérieurs bruts régionaux et valeurs ajoutées régionales de 1990 à 2012". http://www.insee.fr/fr/themes/detail.asp?reg_id=99&ref_id=pib-va-reg-base-2005. Adalwyd 2014-03-04.
- ↑ "Journal officiel o 17 Ionawr 2015" (yn French). 2015-01-17. http://www.legifrance.gouv.fr/jopdf/common/jo_pdf.jsp?numJO=0&dateJO=20150117&numTexte=1&pageDebut=00777&pageFin=00783.