Papeete

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Papeete
Machlud haul, harbwr Papeete
Bysiau, Papeete
Lleoliad Papeete

Papeete yw prifddinas ac unig dref Tahiti a Polynesia Ffrengig. Saif ar arfordir gogledd-orllewinol Tahiti, ac mae'n borthladd pwysig. Mae'r boblogaeth yn 23,555, gyda 105,128 yn yr ardal ddinesig.

Penderfynwyd gan Gymdeithas Genhadol Llundain i anfon cenhadwyr i Papeete ym 1797, a llwydasant ym 1824 gyda chymorth Brenhines Pomare IV.[1]

Daeth Papeete'n brifddinas ym 1843. Roedd Bae Papeete wedi dod yn harbwr mawr erbyn hyn.[2]

Mae gan Papeete gadeirlan, Cathêdrale Notre Dame de Papeete. Mae Maes Awyr Rhyngwladol Faaa ar gyrion y ddinas.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]