Tahiti

Oddi ar Wicipedia
Tahiti
Mathynys Edit this on Wikidata
PrifddinasPapeete Edit this on Wikidata
Poblogaeth178,133 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−10:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolWindward Islands Edit this on Wikidata
SirPolynesia Ffrengig Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd1,069 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,241 metr Edit this on Wikidata
GerllawY Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau17.7°S 149.5°W Edit this on Wikidata
Hyd61 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Ynys yn y Cefnfor Tawel yw Tahiti, hen enw Otaheite. Gydag ynysoedd Moorea a Bora Bora, mae'n rhan o Polynesia Ffrengig, sy'n cynnwys 118 o ynysoedd rhwng Awstralia a De America. Mae fferis yn mynd yn rheolaidd rhwng Tahiti a Moorea. Mae awyrennau'n hedfan o Faes Awyr Rhyngwladol Faa'a i Moorea, Bora Bora ac ynysoedd mwy anghysbell.

Lleoliad Tahiti yn y Cefnfor Tawel

Mae gan yr ynys arwynebedd o 1,036 km² ac roedd y boblogaeth yn 2007 yn 178,133[1]. Y brifddinas yw Papeete.

Defnyddir y franc Cefnfor Tawel Ffrengig ar yr ynysoedd.[2]

Cyrhaeddodd Capten James Cook Tahiti yn Ebrill 1769. Gollyngodd angor ym Mae Matafai, a sefydlodd o Caer Fenws er mwyn gweld trawstaith y blaned Gwener (Fenws) ar 3 Mehefin 1769.[3]

Ysgrifennwyd a golygwyd y geiriadur cyntaf yn yr iaith frodorol, Tahitïeg, gan John Davies o Lanfihangel-yng-Ngwynfa, Powys. Creuodd o wyddor Tahitïeg, yn defnyddio llythrennau Ladin ym 1805[4]. Bu farw John Davies yn Tahiti yn 1855.[5]

Cyrhaeddodd Paul Gauguin Tahiti ar 9 Mehefin 1981 ac arhosodd tan 1893 cyn mynd yn ôl i Baris.[6] Erbyn hyn mae Amgueddfa Paul Gauguin ar ynys Tahiti.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan worldatlas.com
  2. Gwefan twristiaeth Tahiti
  3. "Gwefan captcook-ne". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-09. Cyrchwyd 2015-10-19.
  4. Gwefan Omniglot
  5. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  6. "Gwefan Amgueddfa Gelf Cleveland". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-23. Cyrchwyd 2015-10-19.


Oriel[golygu | golygu cod]