Tahitïeg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae Tahitieg (Reo Tahiti) yn un o ddwy iaith swyddogol Polynesia Ffrengig, gyda Ffrangeg. Mae'n iaith Awstronesiaidd, yn perthyn yn agos i Rarotongeg, Maori a Hawaieg.

Siaredir Tahitïeg ar yr Ynysoedd Cymdeithasol, yn cynnwys Tahiti, a hefyd ar yr Ynysoedd Austral ac Ynysoedd Tuamotu. Mae tua 150,000 o siaradwyr i gyd, gyda llawer o'r rhain yn ei siarad fel ail iaith.